Mae capten Pontypridd, Chris Dicomidis wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen i gael chwarae yn Stadiwm y Mileniwm unwaith eto wrth baratoi i wynebu Aberafan yn rownd derfynol Cwpan Swalec.
Chris Dicomidis
Roedd yna amheuon ynglŷn â ffitrwydd yr wythwr ar ôl iddo ddioddef anaf i’w ben-glin ddiwedd mis Mawrth.
Mae Dicomidis wedi bod yn absennol ers hynny, ond yn yr wythnos yn arwain at y rownd derfynol, roedd y capten wedi profi ei ffitrwydd.
“Roedd y driniaeth wedi mynd yn dda. Yn ystod yr wythnos ddiwetha’, fe ges i’r hawl i ail-ddechrau ymarfer,” meddai Chris Dicomidis.
“Roeddwn i wedi dechrau ymarfer yn llawn dydd Sadwrn diwethaf ac fe aeth y sesiwn yn iawn. Dyna pryd cafodd fy enw ei roi ar y rhestr ar gyfer y rownd derfynol.”
Tri chynnig…
Mae Chris Dicomidis eisoes wedi chwarae mewn dwy rownd derfynol Cwpan Swalec gan ennill yn 2006 a cholli yn erbyn Castell-nedd yn 2008.
“Rwyf wedi cael profiadau cymysg yn y rownd derfynol. Yn 2006 cefais fy anfon i’r gell cosb, ond ef enillodd Ponty y cwpan.
“Ond yn 2008 fe gollwyd yn erbyn Castell-nedd. Y profiadau yma oedd y rhai gorau a gwaethaf yn fy ngyrfa, ac rwy’n gwybod pa un rwyf am brofi unwaith eto”
“Rwy’n edrych ymlaen i gael chwarae yn Stadiwm y Mileniwm unwaith eto. Mae’n fonws i mi gael dychwelyd ar ôl gwella o anaf.
“Mae awyrgylch gwych wedi bod yn y garfan yn ystod ymarferion ac r’y ni’n gwybod bod angen fod ar ein gorau i guro Aberafan,” meddai. “Ond r’yn ni’n teimlo’n hyderus ac yn benderfynol o gyflawni’r hyn sydd angen ei wneud.”