Gavin - aros i gael gwybod ei dynged
Fe fydd dyfodol Gavin Henson yn Toulon yn cael ei benderfynu erbyn dydd Gwener ar ôl i’r canolwr gwrdd gyda swyddogion y clwb heddiw.

Fe gafodd ei wahardd am wythnos wrth iddo geisio adfer ei yrfa ar ôl bron ddwy flynedd ar y cyrion. Dim ond dwy gêm y mae Henson wedi eu chwarae i’r clwb Ffrengig ar ôl symud o’r Saraseniaid ym mis Chwefror.

Mae papurau newydd Ffrainc yn sicr y bydd y canolwr yn cael y sac gan y clwb ar ôl ymladd mewn bar gydag un o’i gyd chwaraewyr.

Ond mae rheolwr tîm Toulon, Tom Whitford wedi dweud bod swyddogion y clwb am gymryd amser i ystyried y sefyllfa yn dilyn eu cyfarfod gyda Gavin Henson.

‘Anodd ond da’

Mae llywydd Toulon, Mourad Boudjellal eisoes wedi dweud bod Henson yn “anodd i’w reoli”.

Ond mae hefyd wedi dweud bod y Cymro yn chwaraewr o’r safon uchaf ac nad ef yw’r unig berson o fewn y gêm i wneud camgymeriad.

Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd am gael sgwrs gyda Gavin Henson ynglŷn â’r digwyddiad cyn gwneud unrhyw sylw pellach am y mater.