Andy Powell - ar ei ffordd hefyd?
Fydd Undeb Rygbi Cymru ddim yn dweud rhagor am achosion y bechgyn drwg, Gavin Henson ac Andy Powell, nes iddyn nhw gael cyfarfodydd gyda’r ddau chwaraewr.

Ond mae Prif Weithredwr yr Undeb, Roger Lewis, wedi cadarnhau eu bod wedi gofyn am sgwrs gyda’r ddau ar ôl iddyn nhw fynd i drwbwl gyda’u clybiau.

Mae papurau Ffrainc yn dweud yn bendant bod Henson bellach wedi cael y sac gan ei glwb Toulon ar ôl chwarae am ddim ond 157 munud iddyn nhw.

Roedd y canolwr wedi mynd i wrthdaro gydag un o’i gyd-chwaraewyr wrth ddathlu buddugoliaeth Toulon yn erbyn Toulouse ynghynt yn y mis.

Yn ôl y prif bapur chwaraeon, l’Equipe, mae Henson yn “byw hunllef” ac wedi gwneud smonach llwyr o’i ymdrech i adfer ei yrfa.

Wasps am gael gwared ar Powell?

Mae rhai sylwebwyr yn credu bod y clwb Seisnig, Wasps, eisiau cael gwared ar Powell hefyd wrth iddo gael ei atal o’i waith ar ôl digwyddiad mewn clwb nos.

Yn ôl Powell, roedd criw o gefnogwyr pêl-droed wedi ymosod arno ond mae ymholiadau’r clwb yn parhau ar ôl iddyn nhw weld lluniau teledu cylch cyfyng o’r digwyddiad.

Mae’r honiadau yn erbyn chwaraewr arall wedi’u gollwng.