Gavin Henson
Mae dryswch mawr ynglŷn â dyfodol y chwaraewr rygbi Gavin Henson wrth i adroddiadau’r wasg yn Ffrainc y bore yma awgrymu ei fod wedi cael y sac gan ei dîm presennol Toulon.

Er hynny, mae’r clwb heddiw wedi gwadu’r adroddiadau hynny gan ddweud na fydd unrhyw benderfyniad ar y mater yn cael ei wneud am o leiaf 48 awr arall.

Roedd adroddiad yn y papur Ffrengig L’Equipe yn dweud na fyddai’n chwarae i Toulon eto yn dilyn gwaharddiad am dorri rheolau’r clwb wythnos diwethaf.

Dim ond dwy gêm mae Henson wedi chwarae i’r clwb Ffrengig ar ôl symud o’r Saraseniaid ym mis Chwefror.

Fe sgoriodd Henson gais yn ei gêm gyntaf yn erbyn Stade Francais, a gwneud ei ail ymddangosiad mewn buddugoliaeth yn erbyn Toulouse. Mae’n debyg i ddathliadau’r fuddugoliaeth honno arwain at ffrae rhwng y Cymro a’i gydchwaraewyr, gyda Henson yn derbyn gwaharddiad wythnos fel cosb.

Llywydd wedi newid ei gân

Roedd yr adroddiadau diweddaraf yn dweud bod llywydd clwb Toulon, Mourad Boudjellal , wedi penderfynu na fyddai Henson yn chwarae i’w dîm eto.

Yn ôl newyddiadurwyr yn Ffrainc, fe ddywedodd Boudjellal nos Wener bod Henson “wedi bod yn anodd i’w reoli.”

Mae’r mwyafrif o wefannau rygbi wedi rhedeg yr un stori heddiw.

Ond, yn ôl erthygl ar wefan y Guardian yn ystod y dydd heddiw mae’r clwb wedi gwadu’r honiadau a dywedodd rheolwr y tîm Tom Whitford nad oedd Toulon yn “dweud unrhyw beth nac yn rhoi unrhyw arweiniad.”

Mae’r wefan hefyd yn dweud bod Boudjellal yn gwadu siarad â unrhyw newyddiadurwyr nos Wener.