Dinas Christchurch wedi difrod y daeargryn
Mae’r saith gêm Cwpan Rygbi’r Byd a oedd i fod i gael eu cynnal yn Christchurch wedi yn cael eu symud i leoliadau eraill yn Seland Newydd yn dilyn y daeargryn darodd y ddinas mis diwethaf. 

 Roedd Gweinidog Cwpan y Byd Seland Newydd, Murray McCully eisoes wedi dweud bod y cae a’r stadiwm wedi cael ei difrodi ar ôl y daeargryn ar 22 Chwefror. 

 Fe ddaw’r penderfyniad i symud y gemau ar ôl i lywodraeth Seland Newydd a’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol dderbyn adroddiad peirianegol terfynol gan reolwyr Stadiwm AMI. 

 “Mae partneriaid Cwpan Rygbi’r Byd 2011 wedi cytuno na fydd Christchurch yn gallu cynnal y saith gêm a oedd i fod i gael eu chwarae yn y stadiwm ac fe fydd y gemau hynny’n cael eu hail-drefnu i leoliadau eraill,” meddai Cwpan Rygbi’r Byd mewn datganiad. 

 “Roedd y penderfyniad wedi cael ei gefnogi’n unfrydol gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, llywodraeth Seland Newydd, Undeb Rygbi Seland Newydd a threfnwyr y gystadleuaeth Rugby New Zealand 2011.

 “Fe ddaw’r penderfyniad  yn dilyn adroddiadau yn asesu’r difrod i gyfleusterau allweddol a gafodd ei achosi gan y daeargryn maint 6.3 a darodd y ddinas ar 22 Chwefror.

 “Roedd hyn hefyd yn ogystal â chyngor rheolwyr y stadiwm VBase na fyddai’n sicr y byddai’r holl waith yn gallu cael ei gwblhau ar amser ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.”

 Roedd Christchurch i fod i gynnal pum gêm grŵp a dwy gêm yn rownd yr wyth olaf.  Mae trefnwyr wedi dweud bydd gemau rownd yr wyth olaf yn cael eu cynnal yn Eden Park ac fe fydd ’na gyhoeddiad pellach ynglŷn â’r trefniant ar gyfer gemau grŵp. 

 Mae prif weithredwr Cwpan Rygbi’r Byd, Martin Snedden wedi dweud bod trefnwyr am geisio cadw mwyafrif o’r gemau ar ynys ddeheuol Seland Newydd gydag o leia’ dair o’r gemau grŵp yn cael eu cynnig i’r lleoliadau eraill yr ynys, sef,  Dunedin, Nelson ac Invercargill.