Steve Hansen
Mae hyfforddwr Seland Newydd a chyn-hyfforddwr Cymru, Steve Hansen, wedi cwestiynu pam y byddai Warren Gatland yn “casáu” hyfforddi’r Llewod.

Dyma’r ffrae eiriol ddiweddaraf rhwng y ddau a ddechreuodd yn ystod y gyfres rhwng y Llewod a’r Crysau Duon yn gynharach eleni.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Warren Gatland ei fod yn casáu holl sylw negyddol y wasg yn ystod y daith, ac na fyddai’n awyddus i arwain taith arall.

Ar un adeg yn ystod y daith, roedd cartŵn Warren Gatland ym mhapur newydd y New Zealand Herald yn ei ddarlunio fel clown a chanddo drwyn coch.

Bydd Seland Newydd yn teithio i Gaerdydd ar 25 Tachwedd i herio Cymru yn Stadiwm Principality.

Cwestiwn

“Pam fyddech chi’n casáu hyfforddi’r Llewod?” meddai Steve Hansen ar Radio Sport yn Seland Newydd

“Os ydych chi’n casáu hyfforddi, peidiwch â’i wneud e. Dw i’n hoff iawn o hyfforddi unrhyw dîm dw i’n rhan ohono fe – dyna’r rheswm pam dw i’n ei wneud e.

“Dw i’n ddigon ffodus i gael hyfforddi’r Crysau Duon, sy’n wych. Os ydych chi’n ddigon ffodus i hyfforddi’r Llewod, mae hynny hefyd yn wych.”

Fe allai Warren Gatland olynu Steve Hansen yn Seland Newydd ar ôl i’r ddau adael eu swyddi ar ddiwedd Cwpan y Byd yn 2019.