Rhys Webb (Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Commons Wikimedia)
Mae’r ymateb a fu i’r newyddion na fydd y mewnwr Rhys Webb yn cael chwarae dros Gymru y tymor nesaf yn “annheg”, yn ôl y prif hyfforddwr, Warren Gatland.

O’r tymor nesaf ymlaen, fydd chwaraewyr sy’n dewis chwarae i glybiau y tu allan i Gymru ddim yn cael chwarae dros Gymru oni bai eu bod nhw eisoes wedi ennill dros 60 o gapiau.

Mae hynny’n golygu na fydd Rhys Webb, sydd wedi ennill 28 o gapiau, ddim yn cael bod yn rhan o’r garfan.

Mae Rhys Webb eisoes wedi dweud na fydd y rheol yn arwain at dro pedol yn ei benderfyniad i ymuno â chlwb Toulon yn Ffrainc.

Serch hynny, mae’r mewnwr wedi’i gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r hydref sy’n dechrau ar 11 Tachwedd.

Bwch dihangol?

Mae rhai wedi awgrymu bod Rhys Webb yn “fwch dihangol” yn yr helynt, ond mae Warren Gatland wedi gwrthod ymateb i’r honiad.

“Roedd tipyn o feirniadaeth ohonof fi, ac ro’n i’n teimlo bod hynny’n annheg.

“Mae’r polisi sydd gennym yn well (na’r polisi blaenorol o ddewis ar hap), a dw i’n teimlo dros Rhys oherwydd fydd e ddim ar gael ar gyfer Cwpan y Byd.

“Fe gawson ni sgwrs dda am hynny pan wnaethon ni gyfarfod ddydd Sadwrn diwethaf.”

Ond mae cynrychiolwyr Rhys Webb yn mynnu nad oedden nhw’n gwybod am y polisi pan lofnododd e’r cytundeb gyda Toulon.

Serch hynny, mae Warren Gatland yn mynnu nad oedd e’n rhan o’r trafodaethau a arweiniodd at gyflwyno’r polisi newydd.

“Fe ges i fy ngwthio allan o safbwynt y cyfryngau ar y dydd Llun, ac roedd hi fel pe bai fy mholisi i oedd e.”

Dywedodd yr hoffai gael ymateb y rhanbarthau i’r helynt.