Cit newydd carfan rygbi Cymru
Tirlun Cymru yw un o’r prif ddylanwadau ar git newydd tîm rygbi Cymru sydd wedi’i lansio heddiw.

Mae’r cit newydd, sydd wedi cael ei greu gan y brand, Under Armour, wedi cael ei ysbrydoli gan yr anthem genedlaethol, ‘Hen Wlad Fy Nhadau’, ac yn gwneud defnydd helaeth o dirlun Cymru yn ei ddyluniad.

Mae’n debyg fod pob un o’r crysau’n unigryw, gyda thopograffi ardaloedd penodol yng Nghymru wedi eu gwnïo i’r rhan o’r crys o amgylch yr ysgwyddau.

Yr ardaloedd sy’n cael eu cynnwys yw Castell Nedd, Bangor, Caerdydd a Llanbed – mannau sy’n allweddol yn hanes sefydlu a datblygu rygbi Cymreig.

Mae’r cit newydd hefyd yn dychwelyd at yr hen git clasurol o grys a sanau cochion, yn hytrach na’r crys coch a’r sanau gwynion sydd wedi cael eu defnyddio yn y blynyddoedd diwethaf.

Ar ochor dechnegol wedyn, mae’r cit wedi cael ei ddylunio i alluogi’r chwaraewyr i fod yn fwy cyfforddus wrth chwarae, gydag offer Heatgear yn fodd o fonitro tymheredd eu cyrff ac i’w gadw ar lefel wastad.

Crys “perffaith”

Un sydd wedi croesawu’r cit newydd yw’r cefnwr, Leah Halfpenny, sy’n mynnu bod y crys coch yn “golygu llawer” i bobol Cymru, ac yn “uno” cenedl gyfan.

“Mae teimlad y crys newydd hwn gan Under Armour yn berffaith”, meddai, “ac rwy’n gwybod y bydd y tîm yn gyffrous i’w wisgo ar y cae am y tro cyntaf pan fyddwn ni’n wynebu Awstralia fis nesaf.”

Mi fydd y cit newydd yn cael ei ddefnyddio am y ddau dymor rygbi nesaf, a hynny tan gystadleuaeth Cwpan y Byd yn 2019.