Gweilch 21–26 Clermont Auvergne

Bu rhaid i’r Gweilchfodloni ar bwynt bonws yn unig wrth i Clermont ymweld â’r Liberty yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop nos Sul.

Rhoddodd ceisiau ail hanner Dan Evans lygedyn o obaithi’r Cymry ond daliodd y Ffrancwyr eu gafael yn y diwedd i ennill gêm agoriadol y ddau dîm yng ngrŵp 2.

Hanner Cyntaf

Cafodd Clermont y dechrau perffaith wrth Alivereti Raka groesi am gais cyntaf y gêm wedi dim ond pedwar munud yn dilyn rhediad unigol gwych o’r llinell hanner.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Gweilch yn fuan wedyn wrth i’r cefnwr, Scott Spedding, groesi am ail gais y Ffrancwyr, 0-14 y sgôr wedi deg munud.

Tarodd y Gweilch yn ôl pan groesodd Rhys Webb o dan y pyst ond ymatebodd yr ymwelwyr wrth i Morgan Parra ychwanegu dwy gic gosb i’w ddau drosiad cynharach.

Ail Hanner

Parra a sgoriodd bwyntiau cyntaf yr ail hanner hefyd gan ymestyn mantais ei dîm i un pwynt ar bymtheg gyda chic gosb arall.

Wnaeth y tîm cartref ddim rhoi’r ffidl yn y to serch hynny a rhoddodd Dan Evans lygedyn obaith iddynt gyda chais ar yr awr.

Roedd y Gweilch o fewn sgôr bum munud o ddiwedd yr wyth deg wedi i Evans groesi am ei ail gais ef a thrydydd y tîm yn dilyn gwaith creu taclus Owen Watkin.

Rhoddodd trosiad Biggar y Cymry o fewn dau bwynt ond dyna’r agosaf a ddaethant wrth Spedding ddiogelu’r fuddugoliaeth i Clermont gyda chic gosb hwyr, 21-26 y sgôr terfynol.

.

Gweilch

Ceisiau: Rhys Webb 17’, Dan Evans 61, 75’

Trosiadau: Dan Biggar 17’, 62’, 75’

.

Clermont Auvergne

Ceisiau: Alivereti Raka 4’, Scott Spedding 10’

Trosiadau: Morgan Parra 4’, 10’

Ciciau Cosb: Morgan Parra 23’, 28’, 53’

Cerdyn Melyn: David Strettle 45’