Rhys Webb (Llun: Undeb Rygbi Cymru)
Mae adroddiadau yn Ffrainc yn awgrymu bod mewnwr Cymru Rhys Webb yn gadael y Gweilch am Toulon ar ddiwedd y tymor.

Mae disgwyl cadarnhad swyddogol yn fuan.

Mae lle i gredu bod y Saraseniaid hefyd wedi bod yn awyddus i’w ddenu o Abertawe.

Ond pe bai e’n mynd i Ffrainc, fe fydd e’n cystadlu am grys rhif naw gyda Sebastien Tillous-Borde, Eric Escande ac Anthony Meric.

Fe chwaraeodd ei gêm gyntaf i’r Gweilch yn 2007, ac mae wedi ennill 30 o gapiau dros Gymru.

Mae polisi Warren Gatland o ddewis uchafswm o bedwar chwaraewr o’r tu allan i Gymru’n golygu y bydd e’n cystadlu gyda Dan Biggar, Taulupe Faletau, George North, Jamie Roberts, Liam Williams ac Owen Williams.