Dan Biggar (llun: Gareth Fuller /PA)
Mae maswr Cymru a’r Gweilch, Dan Biggar ,wedi arwyddo i glwb Northampton.

Fe fydd e’n croesi Pont Hafren ar ddiwedd y tymor.

Mae ganddo gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru ar hyn o bryd, ac mae hwnnw’n dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Mae’n codi cwestiynau am ei ddyfodol gyda’r tîm cenedlaethol, ac yntau wedi ennill 56 o gapiau dros ei wlad.

Mewn datganiad, cadarnhaodd y Gweilch ac Undeb Rygbi Cymru ei fod e wedi gwrthod cynnig i ymestyn ei gytundeb presennol, ac fe fydd e’n ymuno â’i gydwladwr George North yn Uwch Gynghrair Aviva.

Dywedodd Dan Biggar ei bod yn “anrhydedd” cael ymuno â Northampton, a bod gan y clwb “uchelgais” i ennill tlysau.

Ychwanegodd cyfarwyddwr rygbi Northampton, Jim Mallinder fod y clwb “wrth eu bodd” o gael arwyddo’r chwaraewr 27 oed.