Alex Cuthbert
Mae Cymru wedi curo Tonga 24-6 yn Eden Park, Seland Newydd, yn eu gêm brawf ryngwladol gyntaf dros yr haf.

Daeth cais hwyr Alex Cuthbert â diwedd da i’r gêm – ond mae perfformiad Cymru ar y cyfan wedi cael ei feirniadu, gyda Sam Davies yn methu dwy gic gosb cyn y toriad.

Mae pwysau ar y crysau cochion i wella eu perfformiad cyn eu gêm olaf dros yr haf, yn erbyn Samoa ddydd Gwener nesa’ yn ninas Apia ar yr Ynys.