Ross Moriarty
Ar ôl colli sawl gêm oherwydd anafiadau mae’n bosib fydd Jonathan Davies a Ross Moriarty yn dychwelyd ar gyfer gêm y Llewod yn erbyn y Maori All Blacks ddydd Sadwrn.

Cafodd y canolwr Jonathan Davies, 29, anaf i’w ben yn ystod gêm y Llewod yn erbyn y Crusaders ddydd Sadwrn ac mi fethodd y gêm yn erbyn yr Highlanders ddydd Mawrth.

Nid yw Ross Moriarty wedi chwarae ers niweidio ei gefn yn ystod gêm fuddugol gyntaf taith y Llewod yn erbyn y Provincial Barbarians.

“Mae Jonathan wedi bod yn mynd trwy’r protocolau arferol a gobeithiwn y bydd yn ôl yn ymarfer [ddydd Iau],” meddai Hyfforddwr Cynorthwyol y Llewod, Neil Jenkins.

“Mae Ross wedi ail ymuno â’r tîm wrth iddyn nhw ymarfer ac wedi bod yn rhedeg ychydig. Gobeithiwn bydd ef yn gwella mewn amser hefyd.”

Yn dilyn gêm ddydd Sadwrn mi fydd y Llewod yn chwarae yn erbyn y Chiefs, cyn wynebu Seland Newydd yn Auckland ar Fehefin 24.