Jonathan Davies (Llun: David Davies/PA)
Fydd canolwr Cymru Jonathan Davies ddim ar gael i’r Llewod ar gyfer eu gêm nesaf yn erbyn yr Highlanders ddydd Mawrth.

Daeth e oddi ar y cae am asesiad i’r pen yn ystod buddugoliaeth ei dîm o 12-3 dros y Crusaders y bore ma.

Fe gafodd e anaf i’w ben yn ystod tacl wrth iddo fynd am y llinell gais.

Fydd e ddim yn gallu chwarae am o leiaf chwe niwrnod, a bydd rhaid iddo fe basio prawf pellach cyn cael dychwelyd i’r cae.

Mae’r un rheolau’n berthnasol i’r cefnwr Stuart Hogg, oedd hefyd wedi cael ergyd i’w ben.

Fe fydd gan Jonathan Davies ddwy gêm wedyn – yn erbyn y Maori a’r Chiefs – er mwyn profi ei ffitrwydd cyn dechrau’r gyfres yn erbyn Seland Newydd ymhen pythefnos (Mehefin 24).

Dydy maswr Cymru, Dan Biggar ddim ar gael ar hyn o bryd oherwydd rheolau’r asesiad i’r pen, ar ôl cael ei anafu ddydd Mawrth.

…Ond newyddion da

Ond roedd newyddion gwell am y blaenasgellwr a chapten y garfan, Sam Warburton.

Fe fydd e ar gael i chwarae yn erbyn yr Highlanders wrth iddo fe barhau i wella o anaf i’w ffêr.