Nigel Owens (Llun: Undeb Rygbi Cymru)
Y dyfarnwr o Fynyddcerrig, Nigel Owens fydd yn dyfarnu rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop rhwng Clermont Auvergne a’r Saracens ym Murrayfield ar Fai 13.

Hon fydd ei drydedd rownd derfynol o’r bron yn y gystadleuaeth – ei ganfed gêm wrth y llyw yng Nghwpan Ewrop, a’i chweched ffeinal erioed.

“Fe fydd yn achlysur arbennig iawn wrth gyrraedd cant o gemau yng Nghwpan Ewrop,” meddai,  “a hon yn chweched ffeinal i fi. Bydd yn anrhydedd fawr a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at y gêm.

“Fe wnes i ddyfarnu’r ffeinal ym Murrayfield yn 2009 pan enillodd Leinster am y tro cyntaf.

“Dyna oedd fy ail ffeinal o’r bron ac roeddwn i’n gallu ymlacio ychydig yn fwy ar gyfer honno oherwydd yr hyn ro’n i wedi bod drwyddo fe y flwyddyn gynt yn Stadiwm y Mileniwm pan gurodd Munster Toulouse.

“Ro’n i’n teimlo’n fwy cyfforddus a do’n i ddim mor nerfus. Roedd pawb yn dweud ei bod hi’n gêm wych a’r peth gorau oedd fod neb yn siarad am y dyfarnwr.

“Mae’r Saracens yn dîm gwych, ond cafodd rygbi arbennig o dda ei chwarae yn y gêm gyn-derfynol yn Lyon pan gurodd Clermont Leinster. Mae’n addo bod yn achlysur ffantastig.”