Warren Gatland (Llun: Gareth Fuller/PA)
Sam Warburton oedd y “dewis naturiol” i arwain carfan rygbi’r Llewod ar gyfer eu taith i Seland Newydd, yn ôl y prif hyfforddwr, Warren Gatland.

Cafodd blaenasgellwr Cymru a’r Gleision ei enwi’n gapten wrth i’r garfan gael ei chyhoeddi yng ngorllewin Llundain y bore yma.

Fe fydd yn arwain carfan o 12 o Gymry, 16 o Saeson, 11 o Wyddelod a dau Albanwr.

Ef hefyd yw’r ail chwaraewr erioed i arwain y Llewod ar ddwy daith – dim ond y Sais, Martin Johnson, sydd wedi cael y fraint honno o’r blaen.

Ac roedd ei berfformiad fel capten yn Awstralia bedair blynedd yn ôl yn un o’r rhesymau pam y cafodd ei ddewis y tro hwn, meddai Warren Gatland.

“Fe wnaeth e jobyn arbennig yn 2013, ac roedd e’n ddewis naturiol [y tro hwn],” meddai Warren Gatland.

“Mae e’n gwbl ymwybodol fod rhaid iddo fe fod yn ddigon da i gael ei ddewis yn nhîm y profion. Felly mae pwysau arno fe o ran hynny.”

Ond mae Warren Gatland yn mynnu mai cyn-gapten Cymru yw’r “dyn cywir ar gyfer y swydd”.

“Roedd yn ddewis anodd, ac fe fydd rhaid i fois eraill yn y garfan gynnig arweiniad hefyd,” meddai.

‘Anodd ei roi mewn geiriau’

Ar ôl y cyhoeddiad heddiw, dywedodd capten y Llewod, Sam Warburton ei bod yn “anodd” rhoi ei deimladau mewn geiriau.

“Fe gawson ni ginio neithiwr gyda rhai o’r cyn-gapteniaid. Dim ond wrth i chi eistedd wrth y bwrdd yn y cwmni hwnnw ry’ch chi’n sylweddoli beth ry’ch chi’n ei wneud.

“Sylweddolais i wedyn pa mor fawr yw’r peth, yn enwedig yn Seland Newydd.”

Ychwanegodd y byddai arwain y Llewod yn “her a chyfle anhygoel”, a’i fod e wedi clywed y newyddion “ym maes parcio’r archfarchnad” tra roedd e’n siopa gyda’i wraig.

Yn sgil amheuon am ei ffitrwydd yn dilyn anaf i’w ben-glin yn ddiweddar, dywedodd y byddai “100% yn iawn” ar gyfer y daith.

‘Cystadleuaeth am lefydd’

Ychwanegodd yr is-hyfforddwr Rob Howley fod “cystadleuaeth am lefydd” ar ddechrau’r daith.

“Ry’ch chi’n edrych am brofiad, yr x-factor, cyflymdra a phŵer ac mae cystadleuaeth am lefydd, yn sicr, a dyna ry’ch chi am ei gael ar daith y Llewod.

“Allwn ni ddim aros fel criw hyfforddi i hyfforddi’r bois hyn.”