Dan Biggar (Llun: PA/Gareth Fuller)
Mae tîm rygbi’r Gweilch yn mynnu eu bod nhw wedi dilyn canllawiau sydd wedi’u gosod ar gyfer anafiadau i’r pen ar ôl i’r maswr Dan Biggar ddweud ei fod e’n dioddef o’r bendro neithiwr.

Cafodd y maswr ergyd yn ystod yr ail hanner yn erbyn Leinster yn Stadiwm Liberty ac ar ôl cael asesiad, penderfynodd meddygon ei fod e’n gallu parhau i chwarae.

Ond ar ddiwedd y gêm, dywedodd Dan Biggar ei fod e’n teimlo’r bendro a hynny ar ôl iddo fethu cic ola’r gêm a fyddai wedi rhoi buddugoliaeth i’w dîm o 21-20.

Dywedodd y chwaraewr wrth Sky Sports ar ddiwedd y gêm nad oedd e’n “cofio llawer” am ddeng munud ola’r gêm oherwydd yr ergyd.

Datganiad

Yn dilyn ei sylwadau neithiwr, mae’r Gweilch wedi cyhoeddi datganiad ar eu gwefan.

Dywed y rhanbarth: “Gadawodd Dan Biggar y cae yn ystod yr ail hanner i dderbyn triniaeth feddygol ar gyfer briw i’r llygad.

“Cyn cael dychwelyd i’r cae, cafodd Dan asesiad anaf i’r pen ac fe basiodd hwnnw yn ôl gofynion y protocol ac roedd y staff meddygol yn fodlon y gallai barhau.

“Ar ôl parhau i chwarae, ddywedodd Dan ddim byd am ragor o symtomau a doedd ei weithredoedd ddim yn destun pryder i’r tîm meddygol ar y pryd.

“Ar ôl y gêm, cafodd Dan asesiad trylwyr gan y tîm meddygol, yn ôl yr arfer ar gyfer y fath achlysuron, ac fe ddaethon nhw i wybod bryd hynny am ei sylwadau yn ystod cyfweliad ar y teledu yn syth ar ôl y chwiban olaf.”

Y cam nesaf

Ychwanegodd y Gweilch: “Bydd Dan yn parhau i gael ei fonitro fel rhan o’r protocol anafiadau i’r pen rhag ofn y bydd unrhyw adwaith hwyr.

“Fe fydd angen iddo fe basio pob cam ac ateb meini prawf cadarn cyn cael bod yn ffit i chwarae.

“Mae lles meddygol y chwaraewyr yn flaenoriaeth gan bawb ynghlwm wrth y Gweilch bob amser.”