Alun Wyn Jones (canol) rhwng George North a Sam Warburton (Llun cyhoeddusrwydd Undeb Rygbi Cymru)
Mae capten newydd tîm rygbi Cymru, Alun Wyn Jones ymhlith chwaraewyr gorau’r gamp, yn ôl yr is-hyfforddwr cenedlaethol, Shaun Edwards.

Daeth cadarnhad ddoe mai’r chwaraewr ail reng yw capten newydd Cymru yn dilyn penderfyniad y blaenasgellwr Sam Warburton i roi’r gorau i’r gapteiniaeth.

Sam Warburton oedd capten ieuengaf erioed y tîm cenedlaethol, ac yntau’n 22 oed pan gafodd ei benodi yn 2011.

Bydd Alun Wyn Jones yn gapten ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Chwefror 5.

‘Dyn yr hoffech ei ddilyn i frwydr’

Yn ôl Shaun Edwards, mae Alun Wyn Jones yn arweinydd naturiol ac yn “ddyn yr hoffech ei ddilyn i mewn i frwydr”.

“Mae e’n un o’r ychydig chwaraewyr yn ein tîm sy’n sicr o’i le ar hyn o bryd. Mae e’n berfformiwr sy’n sefyll allan.

“Mae e’n athletwr rhagorol ac mae ganddo ymennydd rygbi gwych hefyd.

“Mae’r ffaith ei fod e’r maint yw e, a bod ganddo fe bŵer a chyflymdra, a’i fod yn chwaraewr rygbi mor ddeallus yn golygu bod ganddo fe focs cyflawn o driciau.

“Heb os, mae e’n un o’n chwaraewyr ni sydd o safon byd-eang.”