James Hook yn ystod ei gyfnod cynharach gyda'r Gweilch (Manuel CCA2.0)
Fe fydd un o ffefrynnau mawr y Gweilch yn dychwelyd i’r Liberty y tymor nesa’.
Mae’r maswr a’r canolwr James Hook wedi cyhoeddi ei fod yn dod yn ôl i’w glwb gwreiddiol ar ôl chwe blynedd yn Ffrainc a Lloegr.
Ar hyn o bryd mae’r chwaraewr 31 oed yn chwarae i glwb Gloucester ond wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda’r Gweilch.
‘Dod adre’
Fe ddywedodd mai ei fwriad o’r dechrau oedd dod yn ôl i Abertawe i orffen ei yrfa yno.
“Mae wedi bod yn ffantastig mynd i lefydd newydd a chael profiadau anhygoel gyda dau glwb gwych yn Lloegr a Ffrainc ond dw i’n dod adref at dîm sydd ar ei ffordd at lwyddiant, gyda hyfforddwyr da a charfan o safon, gyda rhai chwaraewyr o safon byd a thalent ifanc gwirioneddol gyffrous.”
Yn ôl hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy, fe fydd cael chwaraewr mor dalentog â James Hook yn y garfan yn dyfnhau’r dalent sydd ynddi.
Er fod dau faswr presennol Cymru – Dan Biggar a Sam Davies – yn chwarae i’r Gweilch, doedd dim modd cael gormod o ddewis, meddai’r hyfforddwr.
Gyrfa Hook
Mae James Hook wedi cael 81 o gapiau i Gymru ond mae llawer o’i gefnogwyr yn teimlo y dylai fod wedi cael rhagor.
Roedd wedi chwarae mwy na 100 o weithiau i’r Gweilch cyn gadael am Perpignan yn Ffrainc.
Mae’n gallu chwarae mewn sawl safle, gan gynnwys masw, canolwr a chefnwr.