Gareth Davies (Llun: Joe Giddens/PA)
Mae mewnwr Cymru, Gareth Davies yn dweud bod y tîm yn barod i wneud yn iawn am y golled yn erbyn Awstralia wrth iddyn nhw groesawu’r Ariannin i Gaerdydd ddydd Sadwrn.

Y golled yn erbyn Awstralia o 32-8 oedd eu gwaethaf ar eu tomen eu hunain ers 2006 – a’u pumed colled o’r bron.

Ond mi fydd hi’n stori wahanol ddydd Sadwrn, a Chymru’n dechrau’n ffefrynnau ar ôl ennill pedair o’u pum gêm diwetha’ yn erbyn yr Ariannin.

Mae disgwyl i Davies ddisodli Rhys Webb yn safle’r mewnwr ar ôl iddo ddioddef anaf ddydd Sadwrn diwetha’.

“Mae’r diwrnodau diwethaf wedi bod yn anodd i ni fel criw. Daeth pawb yn ôl at ei gilydd fore dydd Llun ac r’yn ni wedi bod yn eitha’ caled arnon ni’n hunain.

“Mae’n braf cael gêm eto mor fuan, yn enwedig ar ôl y math yna o berfformiad yn erbyn Awstralia. Allwn ni ddim aros i fynd allan a gobeithio gwneud yn iawn am bethau.”

Ychwanegodd fod y garfan wedi syrthio ar eu bai ar ôl dydd Sadwrn, a’u bod yn deall beth aeth o’i le yn y pen draw.

“Cafodd penderfyniadau gwael eu gwneud yn erbyn Awstralia a chwpwl o gamgymeriadau wrth ymosod. Dyna pam fod y bois yn ysu am gael mynd allan y penwythnos yma i wneud yn iawn am hynny.

“Roedd y tempo yn dipyn o ffactor cyn y gêm yn erbyn Awstralia, ond doedden ni ddim wedi gallu dechrau’n dda. Ry’n ni am gael tempo da wrth chwarae fel ydyn ni.

“Mater o ennill gwrthdrawiadau yw hi yn y lle cynta, a fy nghyfrifoldeb i a’r mewnwyr a’r maswyr yw rheoli’r gêm. Mae cyflymdra’r bêl yn beth enfawr.”

Sgoriodd Gareth Davies bum cais yng Nghwpan y Byd y llynedd, ond dyw e ddim wedi dechrau gêm i Gymru ers wyth mis.

Mae disgwyl hefyd i’r canolwr Jonathan Davies, y clo Alun Wyn Jones a’r blaenasgellwr a’r capten Sam Warburton ddychwelyd hefyd, o bosib yn lle Dan Lydiate.  Fe allai Leigh Halfpenny symud i’r asgell pe bai Liam Williams yn holliach i ddechrau yn safle’r cefnwr.