Cafodd Nigel Owens ei enwi'n Ddyfarnwr Gorau'r Byd yn 2015
Nigel Owens o Fynyddcerrig fydd y dyfarnwr rygbi rhyngwladol mwyaf profiadol erioed wrth iddo gamu i’r cae yn Suva i ddyfarnu’r ornest rhwng Ffiji a Tonga ar Fehefin 11.

Hon fydd gêm ryngwladol rhif 71 i’r Cymro, ac fe fydd yn torri record Jonathan Kaplan o Dde Affrica, oedd wedi dyfarnu 70 o gemau rhyngwladol.

Mae Owens yn cael ei ystyried yn un o ddyfarnwyr gorau’r byd, ac yntau wedi camu i’r canol am y tro cyntaf yn 2003 wrth i Bortiwgal herio Georgia yn Lisbon.

Daeth uchafbwynt ei yrfa pan ddyfarnodd rownd derfynol Cwpan y Byd yn Twickenham rhwng Seland Newydd ac Awstralia y llynedd.

Yn ystod ei yrfa, mae Owens wedi bod yn ddyfarnwr ar gyfer 16 o gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a 12 o gemau ym Mhencampwriaeth Rygbi Hemisffêr y De.

Cafodd ei enwi’n Ddyfarnwr Gorau’r Byd yn 2015.

Fe fydd Owens hefyd yn dyfarnu’r ornest rhwng Awstralia a Lloegr yn Sydney ar Fehefin 25.