Llion Carbis, sydd yn fyfyriwr yn Chweched Dosbarth Ysgol Glantaf
Llion Carbis sydd yn bwrw golwg dros ornest agoriadol gwŷr Gatland…

Mae’r penwythnos ar y gweill a’r cynnwrf yn cydio. Mae’r Cymry wedi uno yn y gred y byddwn yn dathlu buddugoliaeth gampus ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, er gwaethaf goruchafiaeth y Gwyddelod yn y gystadleuaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Heb amheuaeth mae’r gêm yn addo cyffro di-ri, gyda Chymru yn obeithiol y byddan nhw’n llwyddo i ddod â theyrnasiad Iwerddon i ben.

Yn sicr, mae modd ystyried Cymru fel ffefrynnau wrth gofio’r fuddugoliaeth o 23-16 yng Nghaerdydd llynedd.

Gan fod nifer o chwaraewyr hefyd yn dychwelyd o anafiadau, mae cyfle euraidd gan Gymru i osod eu stamp yn gynnar ar y Chwe Gwlad eleni.

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad – Blog Darogan Golwg360

Tîm Cymru: Gareth Anscombe, George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Tom James, Dan Biggar, Gareth Davies; Rob Evans, Scott Baldwin, Samson Lee, Luke Charteris, Alun Wyn Jones , Sam Warburton, Justin Tipuric, Taulupe Faletau

Eilyddion Cymru: Ken Owens, Gethin Jenkins, Tomas Francis, Bradley Davies, Dan Lydiate, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Alex Cuthbert

Machlud ar yrfa Gethin

Wrth ddadansoddi carfan Cymru, rydyn ni’n gweld cymysgedd iachus o brofiad ac ieuenctid.

Mae Gatland wedi aros yn driw i Sam Warburton, Alun Wyn Jones a Jamie Roberts er mwyn ffurfio sylfaen gadarn i’r tîm, tra’n cadw llygad at y dyfodol gyda phresenoldeb Rob Evans a Tom James.

Mae’r penderfyniad i gychwyn gyda Rob Evans yn arwydd o bwysigrwydd y sgrym, gyda’r gobaith y gall y prop newydd ei sefydlogi – mae Gethin Jenkins yn fwy tueddol o ildio cosbau yn enwedig gyda Jerome Garces yn dyfarnu.

Yn ôl Warren Gatland roedd hyn yn un o’r rhesymau dros beidio cychwyn gyda’r prop profiadol.

Yn sicr, dyma’r cam cyntaf yn y broses o dynnu Jenkins o’r llinell flaen, unigolyn sydd wedi bod yn ffigwr arwyddocaol iawn i Gymru dros y pedwar ar ddeg mlynedd ddiwethaf.

Ond, mae rhaid i bob haul wawrio ac mae’n debyg y bydd Jenkins yn dod â’i yrfa ryngwladol i ben cyn bo hir.

Ansicr dros Anscombe


Mae Tom James yn haeddu'i gyfle, yn ôl Llion Carbis (llun: David Davies/PA)
Yn ychwanegol, mae cynnwys Tom James yn y tîm yn dangos bod amynedd Gatland gydag Alex Cuthbert wedi dod i ben.

Mae asgellwr y Gleision wedi profi dirywiad truenus, a heb lwyddo i ailadrodd y safon a osododd yn 2013, felly mae’r penderfyniad yn un cyfiawn.

Mae hyn yn cael ei atgyfnerthu wrth edrych ar ystadegau James y tymor yma. Heb os nac oni bai, mae ei record yn addawol iawn gydag wyth cais mewn 12 ymddangosiad.

O bosib yr unig bryder amlwg yn y tîm yw Gareth Anscombe, sy’n dirprwyo fel cefnwr yn absenoldeb Leigh Halfpenny.

Yn bersonol dw i’n meddwl bod Mathew Morgan yn chwaraewr llawer mwy dawnus ac addas i chwarae gêm gyflym Cymru.

Er bod Anscombe yn cynnig yr hyblygrwydd yna – mae’n gallu chwarae fel maswr neu gefnwr – does ganddo ddim yr un ddawn naturiol â Morgan, sydd wedi profi ei allu i newid llwybr gêm mewn chwinciad.

Mae presenoldeb Gareth Davies yn sicrhau y bydd Cymru yn llwyddo i drafod y bêl yn gyflym. Yn ychwanegol, mae ganddo sgiliau rhedeg gwych ac felly mae’n medru darganfod gwagle.

Ar ôl ffynnu yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd, fyddai hi ddim syndod gweld y mewnwr yn ychwanegu at nifer ei geisiau dros Gymru – mae wedi sgorio pum gwaith hyd yma.

Gwyddelod yn tangyflawni?

Serch hynny, mae’n rhaid cydnabod llwyddiannau Iwerddon. O dan arweiniad deallus Joel Schmidt, mae Iwerddon yn gobeithio ennill y gystadleuaeth am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Ond wedi buddugoliaeth ysgubol Yr Ariannin yn erbyn Iwerddon yng Nghwpan y Byd, ydi momentwm y Gwyddelod wedi dod i ben?

Allwch chi ddim cwestiynu hyfedredd Iwerddon, gydag ymosodwyr sydd ymysg y mwyaf nerthol yn hemisffer y gogledd.

Yn ganolog i’r ymosod yna mae Jonny Sexton, sydd wedi bod yn tangyflawni yn ddiweddar yn y Pro12. Sexton a Connor Murray sy’n gyfrifol am drefnu pob ymosodiad, ac felly mae’n hollbwysig bod y ddau yn chwarae’n dda i sicrhau bod ymosod Iwerddon yn gweithredu’n effeithiol.

Gwylio’r rheng ôl


A fydd Sam Warburton, sydd ar glawr Golwg yr wythnos hon, yn arwain ei dîm i fuddugoliaeth arall?
Yn ogystal, mae gan y Gwyddelod ddigon o brofiad yn enwedig ymysg y blaenwyr. Yn absenoldeb Paul O’Connell bydd rhagor o bwyslais a sylw yn cael ei roi ar arweinyddiaeth Rory Best i sbarduno a chymell ei gyd-chwaraewyr.

Heb amheuaeth mae gan Iwerddon reng ôl hynod o fygythiol allai beri trafferth i unrhyw amddiffyn yn y byd.

Yn amddiffynnol maen nhw’n gadarn ac wrth redeg gyda’r bêl mae Jamie Heaslip a Sean O’Brien yn beryg y bydd Gatland yn gobeithio ei atal.

Yn hanesyddol Cymru sydd wedi cael y gorau o’r ornest hon gan ennill 67 o’r 123 gêm rhwng y ddwy wlad.

Fodd bynnag, mae’r gemau wedi bod yn fwy cyfartal dros y blynyddoedd diwethaf gyda’r ddwy wlad yn ennill pump yr un o’r 10 gêm ddiwethaf.

Yn dilyn Cwpan y Byd cadarnhaol iawn, dw i’n meddwl bod gan Gymru’r hyder a’r gallu i guro Iwerddon.

Mi fydd yn ddiddorol gweld os yw partneriaeth Jamie Roberts a Jonathan Davies yn llewyrchu yn y canol, ac os fydd Gareth Davies yn parhau i ffynnu yn absenoldeb Rhys Webb.

Darogan: Iwerddon 12-26 Cymru

Gallwch ymuno â chynghrair Rygbi Ffantasi Golwg360 ar ESPN ar gyfer y Chwe Gwlad – côd y gynghrair yw 1256260-29723.