Cory Allen
Fe fydd Cory Allen yn dychwelyd i dîm y Gleision fel eilydd pan fyddan nhw’n herio’r Dreigiau yn y ddarbi Gymreig ddwyreiniol ddydd Sul.

Tri newid sydd i dîm Danny Wilson wrth iddyn nhw deithio i Gasnewydd gyda Lloyd Williams, James Down a Josh Turnbull yn dychwelyd i’r tîm.

Mae capten y Dreigiau Thomas Rhys Thomas yn un o bum newid i dîm Gŵyr Gwent wrth iddyn nhw geisio cipio’r pwyntiau o flaen eu torf gartref yn Rodney Parade.

Gyda’r Dreigiau yn nawfed yn y Pro12 ar hyn o bryd a’r Gleision yn 10fed, fe enillodd y Dreigiau y tro diwethaf i’r ddau dîm wynebu ei gilydd yng Nghwpan Her Ewrop yn y gwanwyn.

Dim Faletau

Er gwaethaf absenoldeb Taulupe Faletau i’r Dreigiau gydag anaf, mae prif hyfforddwr y Gleision Danny Wilson yn disgwyl i’r dorf fod yn hwb mawr i’r tîm cartref.

“Mae chwarae oddi cartref yn Rodney Parade yn her mae pawb yn wybod amdano – mae’n rhaid i chi fynd yno yn llawn awch a defnyddio hynny yn eich perfformiad,” meddai Danny Wilson.

“Mae’n gêm ddarbi felly fe fydd yn rhaid i ni gadw’r dorf yn ddistaw a cheisio ffrwyno’r Dreigiau yn gynnar. Mae’n gêm rydyn ni gyd yn edrych ymlaen ato.”

Tîm y Dreigiau: Phil Price, Thomas Rhys Thomas (capt), Brok Harris, Matthew Screech, Rynard Landman, Nick Crosswell, Nic Cudd, Lewis Evans; Sarel Pretorius, Dorian Jones, Ashton Hewitt, Adam Warren, Adam Hughes, Nick Scott, Carl Meyer.

Eilyddion: Elliot Dee, Boris Stankovich, Lloyd Fairbrother, Cory Hill, Ollie Griffiths, Luc Jones, Jason Tovey, Ross Wardle.

Tîm y Gleision: Gethin Jenkins (capt), Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Lou Reed, James Down, Josh Turnbull, Josh Navidi, Manoa Vosawai; Lloyd Williams, Jarrod Evans, Tom James, Rey Lee-Lo, Garyn Smith, Alex Cuthbert, Rhys Patchell.

Eilyddion: Ethan Lewis, Sam Hobbs, Dillon Lewis, Macauley Cook, Cam Dolan, Tavis Knoyle, Cory Allen, Dan Fish.