A fydd gwledydd fel Georgia a Rwmania yn cystadlu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y dyfodol?
Rhaid i’r gamp fod yn barod i newid os yw hi eisiau bod yn gêm wirioneddol ryngwladol, yn ôl Iolo Cheung

Dydi Cwpan Rygbi’r Byd ddim ar ben eto ac eisoes mae’r trafod wedi dechrau ynglŷn â dyfodol y gêm ryngwladol, gyda thipyn o bendroni ynghylch sut all gwledydd hemisffer y gogledd gau’r bwlch sydd wedi cael ei amlygu eto eleni rhyngddyn nhw a hemisffer y de.

Ond tra bod cewri’r gogledd yn gwylio cewri’r de yn eiddigeddus, mae materion ychydig yn is i lawr y drefn ryngwladol hefyd wedi bod yn y penawdau dros y dyddiau diwethaf.

Yn dilyn perfformiadau calonogol gan rai o wledydd yr ail haen megis Siapan, Georgia a Rwmania, mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â’u dyfodol nhw ar y llwyfan rhyngwladol a’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw herio’r goreuon y tu allan i Gwpan y Byd.

Mae llywydd Rugby Europe eisoes wedi awgrymu y dylai’r Chwe Gwlad ystyried ehangu i gynnwys ‘saith neu wyth tîm’, tra bod y Cymro sy’n hyfforddi tîm Rwmania wedi awgrymu y dylid sefydlu ail adran ‘Chwe Gwlad’ gyda gwledydd yn gallu disgyn ac ennill dyrchafiad o’r naill i’r llall.

Beth bynnag fydd dyfodol y cystadlaethau cyfandirol, mae un peth yn glir – fe fydd yn rhaid i rygbi fod yn barod i newid os yw hi eisiau cael ei hystyried yn gêm wirioneddol fyd eang.

Siop gaeedig

Does dim dwywaith bod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gystadleuaeth wych sydd yn aml yn llawn gemau cyffrous ac yn llwyddo bron yn ddieithriad i ddenu torfeydd yn eu miliynau i wylio gemau yn y meysydd ac ar y teledu.

Mae’r un peth yn wir am y Bencampwriaeth Rygbi yn hemisffer y de sydd eto’n hynod o lwyddiannus yn denu gwylwyr ac yn gystadleuaeth arall o’r safon uchaf.

Maen nhw’n sicrhau bod undebau rygbi’r gwledydd sy’n cymryd rhan yn llenwi’u coffrau, ac mae cefnogwyr yn mwynhau’r brwydrau cyson yn erbyn cymdogion a gelynion hanesyddol a thripiau i ddinasoedd cyfarwydd bob blwyddyn neu ddwy.

Ond mae’n strwythur caeedig  sydd yn amddifadu gwledydd eraill o’r cyfle i gystadlu ar y lefel uchaf yn gyson, gyda dim ond chwe thîm yn cael y cyfle i frwydro am fod y gorau yn Ewrop a phedair yn unig yn ymladd am yr hawl i alw’u hunain yn bencampwyr hemisffer y de.

Newid y dirwedd


Roedd Siapan yn un o'r timau greodd yr argraff fwyaf yng Nghwpan y Byd eleni (llun: Joe Giddens/PA)
Dydi rygbi ddim yn anghyfarwydd â newid, wrth gwrs. Cafodd pencampwriaeth ynysoedd Prydain ei hymestyn i gynnwys Ffrainc ac wedyn yr Eidal yn fwy diweddar, ac ers 2012 mae’r Ariannin wedi ymuno â gwledydd y Tri Nations gynt.

Fel mae’r gêm yn tyfu, a mwy o wledydd yn cymryd rhan ac yn gwella eu safonau, mae addasu’r hen drefn yn anochel – ac fe fydd gweld rygbi saith bob ochr yn y Gemau Olympaidd ond yn hwb i’r diddordeb rhyngwladol hwnnw.

Ond wrth i’r dirwedd ryngwladol newid mae angen i gystadlaethau wneud yr un peth.

Dydi gwledydd fel Georgia a Rwmania, Siapan ac ynysoedd y Môr Tawel, yr UDA, Namibia a’u tebyg ddim ond yn cael y cyfle i herio’r goreuon unwaith bob pedair blynedd yng Nghwpan y Byd.

Maen nhw’n chwarae mewn ambell gystadleuaeth arall ail haen wrth gwrs, ond prin yw eu cyfleoedd fel arall i brofi’u hunain yn erbyn goreuon y gamp – a heb wneud hynny wnewch chi ddim gwella.

Ambell grasfa?

Fe fuasai cynnwys Georgia a Rwmania mewn cystadleuaeth ‘Wyth Gwlad’ yn benbleth i’r calendr rhyngwladol, wrth gwrs, ac fe fyddai llawer yn dadlau nad ydyn nhw o bosib yn barod i chwarae ar y lefel yna eto.

Ond yr unig ffordd o brofi hynny ydi rhoi’r cyfle iddyn nhw – efallai y byddai ambell grasfa ar y dechrau, ond mae hynny wastad wedi bod yn wir am wledydd eraill sydd wedi camu lefel yn uwch.


Georgia yn herio Seland Newydd yng Nghwpan y Byd eleni - fyddan nhw'n gwneud yr un peth yn y Chwe Gwlad yn y dyfodol? (llun: David Davies/PA)
Mae’r syniad o gael system dyrchafu a disgyn o Adran Un Cwpan Cenhedloedd Ewrop, ble mae’r ddwy wlad yn chwarae ar hyn o bryd, yn gwneud synnwyr, gyda rhyw fath o gêm ail gyfle rhwng y tîm ar waelod y Chwe Gwlad a’r tîm buddugol o’r adran honno.

Petai Georgia neu Rwmania yn trechu’r Alban, yr Eidal neu bwy bynnag arall yn y gêm honno, oni fuasen nhw wedi haeddu tymor yn y Chwe Gwlad? Allan nhw ddim bod yn waeth na’r tîm maen nhw newydd ei drechu, wedi’r cwbl.

Pwy a ŵyr, efallai y byddai system debyg yn gweithio yn hemisffer y de, gydag enillydd Cwpan Cenhedloedd y Môr Tawel (Fiji, Tonga, Samoa, Siapan, yr UDA a Chanada) yn cael y cyfle i ennill lle yn y Bencampwriaeth Rygbi drwy gêm ail gyfle.

Fe fuasai hynny’n hwb enfawr i’r gwledydd hynny fyddai’n gwybod wedyn bod ganddyn nhw rywbeth ychwanegol i anelu ato, gyda’r gobaith y gallai hynny wneud Cwpan y Byd yn y dyfodol yn fwy cystadleuol.

Agor cil y drws

Bydd rhai o gefnogwyr y gwledydd rygbi traddodiadol yn poeni am y posibilrwydd o golli eu lle ar frig y gamp ymhen blynyddoedd i ddod, wrth gwrs, ac mae llawer yn siŵr yn hapus â’r drefn fel y mae.

Wedi’r cwbl, edrychwch ar bêl-droed – mae pob gwlad yn y byd yn chwarae’r gêm honno bellach, ac ers tro byd dyw’r un o wledydd Prydain wedi llwyddo i wneud y marc maen nhw wedi gobeithio’i wneud ar y llwyfan rhyngwladol.

Yn y byd rygbi mae Cymru’n un o’r cewri, yn hanesyddol yn ogystal ag yn y presennol, ac mae cefnogwyr wedi arfer gweld y tîm yn ennill Pencampwriaethau Chwe Gwlad a dod yn agos mewn ambell Gwpan y Byd.

Yn y byd pêl-droed, mae hi wedi cymryd 58 mlynedd jyst i gyrraedd twrnament rhyngwladol arall – byddai hi ddim yn syndod felly petai cefnogwyr rygbi’n ddigon hapus â’r drefn bresennol yn eu camp nhw ble mae Cymru yn gyson ymysg y goreuon.

Ond siop gaeedig yw hi. Os ydi’r byd rygbi’n hapus â’r drefn fel y mae hi, mae ganddyn nhw berffaith hawl i beidio â newid eu strwythurau a’u cystadlaethau.

Os ydyn nhw wir eisiau gwella safonau cystadleuol y gwledydd yn yr ail haen yna fodd bynnag, a gweld y gêm yn tyfu mwy y tu hwnt i ffiniau’r hen ymerodraeth Brydeinig, byddai agor cil y drws fymryn yn fwy yn le da i ddechrau.