Warren Gatland
Mae Jamie Roberts wedi dweud bod angen i Undeb Rygbi Cymru gadw’u gafael ar Warren Gatland yn sgil diddordeb honedig gan Loegr.

Dywedodd canolwr Cymru a’r Harlequins ei fod yn hyderus y byddai Gatland yn aros yn ei rôl fel prif hyfforddwr hyd nes Cwpan Rygbi’r Byd nesaf yn Siapan yn 2019.

Ond gyda Lloegr yn parhau i ystyried a fyddan nhw’n diswyddo Stuart Lancaster ar ôl eu twrnament siomedig nhw eleni, mae enw Gatland yn naturiol wedi cael ei grybwyll.

“Dw i’n gwybod bod rhai pobl wedi’i gysylltu e â swydd Lloegr ond dw i ddim yn meddwl y bydd e’n mynd fanno, yn enwedig gan fod ganddo fe gytundeb gyda Chymru nes 2019,” meddai Jamie Roberts wrth yr Independent.

“Mae Warren Gatland wedi gwneud gwaith gwych â’r bechgyn ac mae pawb yn gyfarwydd â’i gilydd nawr. Mae e wedi datblygu perthynas dda â’r chwaraewyr ac mae pobl yn ei barchu e a beth mae’n ei gynnig.”

Eraill yn edmygu

Does dim diffyg edmygwyr gan Gatland, sydd yn gyn-hyfforddwr ar Wasps ac Iwerddon, o fewn y byd rygbi ar hyn o bryd.

Ers cymryd yr awenau gyda Chymru yn 2007 mae wedi arwain y tîm i ddwy Gamp Lawn a thair Pencampwriaeth Chwe Gwlad yn ogystal â rownd gynderfynol Cwpan y Byd 2011 a rownd wyth olaf y gystadleuaeth eleni.

Roedd y gŵr o Seland Newydd hefyd yn hyfforddwr ar dîm y Llewod wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth hanesyddol o 2-1 yn eu cyfres nhw yn Awstralia yn 2013.

Dyfodol yr hyfforddwyr

Tra bod Gatland yn edrych yn debygol o aros gyda Chymru fodd bynnag, dyw’r un peth ddim mor sicr ynglŷn â rhai o’i staff hyfforddi gan gynnwys hyfforddwr yr amddiffyn Shaun Edwards a’r hyfforddwr ymosod Rob Howley.

“Dw i’n gwybod fod eu cytundebau nhw’n dod i ben ond gobeithio y bydd yr un staff hyfforddi yn aros gyda’i gilydd i Gymru,” meddai Jamie Roberts wrth drafod dyfodol y ddau.

“Dw i wedi bod yn lwcus yn fy ngyrfa i o fod wedi arfer â staff hyfforddi sefydlog. Roedd Rob yn dechrau ar ei yrfa hyfforddi gyda Gleision Caerdydd pan ddes i drwyddo a fe a Shaun yw’r unig rai dw i wedi nabod ers bod yn rhan o’r garfan genedlaethol.

“Mae Shaun wedi dod â’r gorau allan ohonof i fel chwaraewr a pherson, ac fe all unrhyw un weld pa mor allweddol yw e i’n huned amddiffynnol ni, tra bod Rob yn rhywun dw i’n edmygu’n fawr ac sydd wedi helpu fy ngyrfa i ers dros ddegawd.”