Scott Williams
Mae is-gapten y Scarlets Scott Williams wedi mynnu y bydd “pob pwynt yn cyfrif” wrth i’r tîm baratoi am un o “gemau mwyaf y tymor” yn Treviso fory.

Gydag un gêm yn weddill o gynghrair y Pro12 mae’r Scarlets yn chweched, pedwar pwynt o flaen Connacht a phum pwynt o flaen Caeredin.

Mae hynny’n golygu y byddai dau bwynt allan yn yr Eidal yn ddigon i sicrhau lle i Fois y Sosban yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf.

Ond petai nhw’n colli, a Connacht neu Caeredin yn ennill, fe allai’r Scarlets lithro allan o’r chwech uchaf.

‘Dim gêm gyfartal’

Mae Scott Williams wedi mynnu fodd bynnag na fydd y tîm yn meddwl am gael gêm gyfartal er mwyn bod yn saff o’u lle ym mhrif gwpan Ewrop y tymor nesaf.

“Mae’n rhaid i ni ennill. Mae pob pwynt yn cyfrif,” meddai canolwr Cymru.

“Ein meddylfryd ni’r penwythnos yma yw ennill ac yna fe fyddwn ni’n saff. Mae’r bois yn edrych ymlaen ato fe.

“Fe fyddan nhw eisiau gorffen ar nodyn uchel – mae’n mynd i fod yn anodd. Rydyn ni wedi dweud ein bod ni jyst yn canolbwyntio ar beth sy’n rhaid i ni ei wneud.

“Os ni’n ennill ry’n ni’n saff. Dydyn ni ddim eisiau colli ac aros i weld y canlyniadau eraill.”

Cystadlu flwyddyn nesaf

Fe fydd gan y Scarlets dîm cryfach y tymor nesaf, yn ôl Scott Williams, a dyna pam y bydd chwarae ym mhrif gystadleuaeth Ewrop mor bwysig iddyn nhw.

“Rydych chi eisiau chwarae yn erbyn y goreuon,” meddai’r is-gapten.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau’r tymor nesaf i weld pwy fyddan ni’n chwarae.

“Ar ôl gwylio’r rownd gynderfynol a’r ffeinal, rydych chi eisiau bod yn chwarae yn y gemau yma, gemau anferth yn erbyn y chwaraewyr gorau ar y lefel uchaf.

“Hon fydd un o gemau mwyaf y tymor, mae cymaint yn dibynnu arni. Dw i’n meddwl y bydd gennym ni garfan dda flwyddyn nesaf. Mae’r flwyddyn yma wedi dangos ein bod ni’n gallu cystadlu gyda’r goreuon.”