Jamie Roberts
Mae Jamie Roberts eisoes wedi troi ei sylw at y paratoadau “cyffrous” ar gyfer Cwpan y Byd, ar ôl i Gymru orffen yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Er i’r crysau cochion chwalu’r Eidal 61-20 i roi gobaith i’w hunain o gipio’r bencampwriaeth ar wahaniaeth pwyntiau, llwyddodd Iwerddon a Lloegr hefyd i ennill yn swmpus gan olygu mai’r Gwyddelod aeth a hi.

Bydd Warren Gatland nawr yn dechrau paratoi o ddifrif am Gwpan y Byd yn yr hydref, gyda Chymru mewn grŵp heriol sydd hefyd yn cynnwys Lloegr, Awstralia, Fiji ac Uruguay.

Ond mae Roberts yn hyderus y bydd yr amser ychwanegol mae’r tîm am gael i baratoi cyn y twrnament yn golygu na fyddan nhw’n dechrau’n araf y tro hwn.

Gwersylloedd paratoi

Mae disgwyl i Gymru gyhoeddi eu carfan ymarfer ar gyfer Cwpan y Byd ar ddechrau mis Mehefin, ac fe fydd y garfan honno wedyn yn mynd i wersylloedd ymarfer yn y Swistir, Qatar a Gwlad Pwyl.

Bydd y tîm hefyd yn chwarae gemau paratoadol yn erbyn Iwerddon a’r Eidal cyn i’r twrnament ddechrau.

Ac mae canolwr Cymru Jamie Roberts yn hyderus y bydd y tîm yn gallu dechrau’r twrnament yn gryf, rhywbeth sydd ddim wastad yn digwydd gyda’r Chwe Gwlad, gyda’r amser ychwanegol.

“Rydyn ni’n gweithio mor galed ag unrhyw un yn arwain at Gwpan y Byd,” meddai Roberts.

“Rydyn ni’n gwybod pan ry’n ni gyda’n gilydd am gyfnod hir o amser, ein bod ni’n dîm da iawn.

“Dw i’n edrych nôl ar Gwpan y Byd diwethaf yn 2011 pan gawson ni’r amser yna gyda’n gilydd ac fe weithion ni’n galed iawn o ran ffitrwydd. Yn dechnegol, rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n dîm da iawn.

Cadw’n ffit

Mae’r ffaith bod y rhan fwyaf o garfan Cymru eisoes wedi profi Cwpan y Byd yn hwb arall, yn ôl Jamie Roberts.

Hynny yw os nad ydi’r anafiadau’n brathu, gan fod Cymru yn aml yn methu dibynnu ar yr un dyfnder yn eu carfan a llawer o wledydd eraill.

“Mae’r rhan fwyaf o’r chwaraewyr dal gyda’i gilydd, ac mae llawer mwy o brofiad yna nawr ar ôl Cwpan y Byd diwethaf,” meddai Roberts.

“Fel dwedais i, mae’r cyfnod paratoi yna’n rhoi lot o sgôp i ni weithio ar bethau a gwella.

“Croesi bysedd, ry’n ni’n gobeithio y bydd misoedd olaf y tymor yn ddianaf i bawb. Dyna’r gobaith.”