Owain Gruffudd
Owain Gruffudd sydd yn edrych ar drafferthion Mark Hammett – a phwy allai ei olynu …

Ma’ pethau i weld yn mynd o ddrwg i waeth i dîm Gleision Caerdydd ar hyn o bryd. Mae hi wedi bod yn ymgyrch siomedig yn y gynghrair unwaith eto i dîm y brifddinas, gyda pherfformiadau yn erbyn y Dreigiau (gartref) a Treviso (oddi cartref) ymysg yr isafbwyntiau.

Mae’r canlyniadau hyn yn golygu fod y rhanbarth yn ddegfed yn y gynghrair ar hyn o bryd – yn is nag unrhyw dîm arall o Gymru a 12 pwynt oddi wrth y chweched safle hollbwysig.

Wythnos yma daeth y newyddion y bydd Mark Hammett, Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision ers chwe mis yn unig, yn gadael y rhanbarth ar unwaith, a hynny am resymau personol.

Mae’r newyddion wedi bod yn sioc i nifer o gefnogwyr. Yn dilyn haf llawn gobaith ac optimistiaeth, mae’n rhaid derbyn nad yw’r safon wedi bod yn dderbyniol, ac mae rhai’n siŵr o amau fod hynny’n rhan o reswm y Kiwi dros adael y brifddinas. Felly beth yn union sydd wedi mynd o’i le?

Mark Hammett – Problemau o’r dyddiau cynnar?

Yn sicr fe greodd apwyntiad Hammett ym mis Mai gryn dipyn o gynnwrf ym Mharc yr Arfau. Roedd ‘na lawer o sôn am gynlluniau hir dymor a’r ffordd y byddai’r tîm yn datblygu ar y cae – ac yntau wedi arwyddo cytundeb tair blynedd.

Roedd ‘na nifer o wynebau newydd a chyffrous ar fin ymuno â’r garfan – Adam Jones, Jarred Hoeata, Josh Turnbull, Craig Mitchell a Manoa Vosowai ymysg y chwaraewyr rhyngwladol profiadol – gyda Gareth Anscombe, gobaith diweddaraf y genedl i wisgo crys y maswr dros Gymru, hefyd ar ei ffordd.

Ond, yn naturiol, roedd y cynnwrf  yn golygu y byddai’r disgwyliadau a’r pwysau yn cynyddu.

Roedd Hammett, y cyn-fachwr wnaeth gynrychioli’r Crysau Duon 29 o weithiau, yn ymuno ar ôl cyfnod gyda’r Hurricanes o Wellington, un o glybiau mwyaf Hemisffer y De.

Cyn hynny, treuliodd gyfnod fel rhan o dîm hyfforddi’r Crusaders (Canterbury), un o glybiau mwyaf llwyddiannus yn hanes cynghrair Super Rugby.

Ond rhywbeth na chafodd gymaint â hynny o sylw yn y cyfryngau yma yng Nghymru oedd y ffaith fod Hammett wedi cael ei farnu’n llym gan gefnogwyr yr Hurricanes am ei berthynas gyda’i chwaraewyr.

Roedd rhai o sêr mwyaf y Crysau Duon – Ma’a Nonu, Andrew Hore, Aaron Cruden a Hosea Gear – wedi gadael y clwb yn ystod ei gyfnod, ac fe effeithiodd hynny ar y niferoedd oedd yn mynychu eu gemau.

Anhapusrwydd

Roedd rhai yn sicr yn amau ei ddulliau o ddelio â’r chwaraewyr yn gynnar yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd.

Roedd ‘na sôn fod rhai aelodau o’r garfan yn anhapus gyda’i ddulliau ymarfer, ac fe wnaeth WalesOnline awgrymu fod y cwynion hyn wedi cyrraedd rhai o gyfarwyddwyr y clwb.

A tybed os oedd hyn yn cael ei adlewyrchu ar y cae? Yn y gynghrair, dim ond pedair buddugoliaeth allan o 15 gêm.

Roedd y cefnogwyr yn anhapus ar ôl colli i’r Dreigiau ym Mharc yr Arfau am yr ail dro yn unig ers i’r rhanbarthau ffurfio. Methu cystadlu yn erbyn timau megis Glasgow, Ulster, Munster a Leinster.

Ac yn ei gêm olaf wrth y llyw, cafodd y tîm eu trechu gan Treviso. Gwahaniaeth pwyntiau o -90 dros y tymor, gan ildio 389 o bwyntiau.

A thra roedd y Gweilch  ar rediad o saith gêm heb golli (er iddyn nhw golli nifer o’u sêr dros yr haf), roedd yn rhaid i gefnogwyr y Gleision wylio’r prop Adam Jones yn ceisio trosi cic adlam mewn gêm gartref bwysig.

Mae Alex Cuthbert wedi cael ei feirniadu yn gyhoeddus am ei berfformiadau. Tydi’r ansicrwydd am rôl Rhys Patchell yn y tîm, ar ôl i Gareth Anscombe gyrraedd o Seland Newydd, ddim wedi helpu’r sefyllfa.

Ac mae perfformiadau rhai o wynebau newydd yr haf – Tavis Knoyle, Ieuan Jones a George Watkins (sydd bellach wedi gadael) – wedi bod ychydig yn siomedig.

Ond mae nifer yn awgrymu na chafodd Hammett y chwarae teg na’r amser i newid y clwb i siwtio’i system. Ac efallai nad ydi hynny’n syndod.

Ers i Dai Young adael i ymuno â Wasps yn 2011 mae’r Gleision wedi cael pedwar tîm hyfforddi gwahanol – Justin Burnell a Gareth Baber; Phil Davies; Paul John a Dale Macintosh, ac wrth gwrs Hammett.

Tra bod pawb am osod eu stamp eu hunain ar y chwarae, does dim llawer o gyfle nac amser wedi bod i neb osod y stamp hwnnw ar y tîm, ac i greu ychydig o gysondeb.

Uchafbwyntiau?

Felly er mai cyfnod digon cymylog gafwyd dan reolaeth Hammett, roedd ‘na ambell ysbaid heulog yma ac acw.

Roedd ‘na berfformiadau da yng Nghwpan Sialens Ewrop. Trechwyd Grenoble ddwywaith, sgoriwyd dros 100 pwynt yn erbyn Rovigo ac enillwyd gêm gartref yn erbyn Gwyddelod Llundain.

Mae’r tîm bellach wedi cyrraedd yr ail rownd, gyda gêm fawr yn erbyn y Dreigiau ar Rodney Parade i ddod ym mis Ebrill.

Mae ‘na ambell unigolyn sydd wedi serennu yn ystod y tymor hefyd. Mae Lloyd Williams wedi cael rhediad da yn y tîm yn dilyn cyfnod o ansicrwydd, ac wedi ychwanegu at y rhestr o fewnwyr o Gymru sy’n sgorio yn gyson.

Roedd hi’n syndod mawr i bawb nad oedd Josh Navidi yng ngharfan ryngwladol Cymru, yn dilyn perfformiadau grymus yn safle’r wythwr.

Ac mae’r ddau Archentwr, Lucas Amorosino a Joaquin Tuculet, wedi rhoi ‘chydig o sbarc yn chwarae’r cefnwyr.

Ond beth nesaf i’r Gleision?

Hyfforddwr nesaf – yr ymgeiswyr

Ma’ ’na dipyn o enwau wedi cael eu hawgrymu yn barod i gamu i mewn i esgidiau’r hyfforddwr ym Mharc yr Arfau.

Yn naturiol, mae ’na rai yn sôn mai Dale Macintosh a Paul John, oedd yn hyfforddi gyda Hammett, fydd yn cael y cyfle.

Ond dw i’n credu fod angen newid llwyr yn y tîm hyfforddi a tydi system amddiffynnol y ‘Chief’ yn amlwg heb weithio eleni.

Enw arall poblogaidd ar hyn o bryd yw Mike Rayer. Yn ei gyfnod fel chwaraewr, roedd Rayer yn gefnwr poblogaidd dros Gaerdydd a Chymru, ac mae bellach yn brif hyfforddwr y Bedford Blues.

Ond dw i’n teimlo y byddai apwyntio Rayer yn ’chydig o anti-climax i’r cefnogwyr – fydd yn ysu am gael rhywun sydd wedi profi ei hun ar y lefel uchaf.

Mae ’na ambell un annisgwyl hefyd wedi cael eu henwi yn y cyfryngau. Mae ’na sôn am rai o hyfforddwyr Cymru, fel Shaun Edwards a Rob Howley (a hyd yn oed Warren Gatland), ond tybed a fyddai’r ddau yma yn ystyried y swydd yn gam i fyny o’u rôl bresennol gyda’r tîm cenedlaethol?

Un arall yw Geraint John, oedd hefyd yn arfer chwarae dros Gaerdydd. Mae John wedi profi llwyddiant yn ei rôl gyda thimau saith bob ochr Canada ac Awstralia, ond mae’n siŵr y bydd ei lygaid o wedi eu hoelio ar y Gemau Olympaidd ym Mrasil flwyddyn nesaf.

Felly beth am fy newis personol i? Mae ’na griw mawr o Gymry yn rhan o Glwb Bryste ar y funud – chwaraewyr megis Dwayne Peel, Ryan Jones a Matthew Morgan ar y cae, a Sean Holley yn arwain oddi ar y cae.

Un o hyfforddwyr Holley ym Mryste yw Danny Wilson, a dw i’n credu fod ganddo’r parch a’r profiad i arwain y Gleision.

Fel hyfforddwr ar y Scarlets llynedd fe wnaeth o lwyddo i drawsnewid y sgrym a’r leiniau. Cyn hynny roedd yn brif hyfforddwr ar dîm dan 20 Cymru, gan orffen yn ail a thrydydd ym Mhencampwriaeth y Byd.

Mae’n sicr yn anodd dadlau yn erbyn hynny, yn fy marn i. A dw i’n siŵr y byddai wrth ei fodd yn dod yn ôl i Gymru, ac i wynebu un o sialensiau mwyaf rygbi’r wlad, sef codi tîm y brifddinas yn ôl i’r brig.