Mae hyfforddwr sgiliau academi y Dreigiau, Shaun Connor wedi cael ei ddyrchafu’n is-hyfforddwr y rhanbarth.

Adnewyddodd Connor ei gytundeb fel hyfforddwr sgiliau’r academi yn ddiweddar, ond fe fydd e’n cynorthwyo Lyn Jones a Kingsley Jones gyda’r tîm hŷn.

Ymddangosodd Connor yng nghrys y Dreigiau 29 o weithiau cyn ymuno â’r tim hyfforddi yn 2010.

Symudodd Connor i weithio i Undeb Rygbi Cymru’n ddiweddarach cyn ail-ymuno â’r rhanbarth yng Ngwent haf diwethaf.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, Lyn Jones: “Mae Shaun wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers iddo fe ymuno ag academi’r Dreigiau yn yr haf.”

Ychwanegodd Jones fod Connor “wedi dylanwadu ar ein gwelliant ni”, gan ddweud bod gan Connor “gyfle i brofi ei hun ar y lefel uchaf”.

Dywedodd Connor ei fod yn barod am y dyrchafiad.

“Un o’r rhesymau y des i yma oedd i gael y cyfle i gydweithio â Lyn a Kingsley Jones a’r Dreigiau, felly rwy’n edrych ymlaen at barhau yn y swydd hon dros y tymhorau i ddod.”