Mae Lyn Jones wedi gwneud tri newid i’w dîm wrth iddyn nhw baratoi i herio Stade Francais yn Rodney Parade yfory.

Mae’r Dreigiau eisoes wedi ennill y grŵp a chyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Her Ewrop, gan olygu cyfle i orffwys ambell chwaraewyr.

Geraint Rhys Jones sydd yn dod i mewn fel cefnwr, gyda Tom Prydie yn symud nôl i’r asgell, oherwydd absenoldeb Matthew Pewtner.

Mae Elliott Dee i mewn fel bachwr yn lle Hugh Gustafson, ac mae James Thomas yn symud i’r ail reng yn lle Andrew Coombs gyda Taulupe Faletau yn cymryd ei le yn y rheng ôl.

Bydd uchafbwyntiau’r gêm i’w gweld ar S4C nos Sadwrn am 10.00yh.

Tîm y Dreigiau: Geraint Rhys Jones, Tom Prydie, Tyler Morgan, Jack Dixon, Hallam Amos, Dorian Jones, Jonathan Evans; Phil Price, Elliot Dee, Brok Harris, James Thomas, Rynard Landman (capt), Lewis Evans, Nic Cudd, Taulupe Faletau.

Eilyddion: T. Rhys Thomas, Lloyd Fairbrother, Dan Way, Cory Hill, Ian Gough, Luc Jones, Angus O’Brien, Ashton Hewitt.