Mae’r Scarlets wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo’r canolwr Hadleigh Parkes o glwb Auckland Rugby yn Seland Newydd.

Auckland oedd cyn-glwb hyfforddwr presennol y Scarlets, Wayne Pivac, ac fe wnaeth Parkes yn gapten yno yn ystod eu cyfnod gyda’i gilydd.

Bydd y ddau nawr yn ailymuno ym Mharc y Scarlets, ac mae Pivac yn gobeithio y bydd y canolwr 27 oed, sydd hefyd yn gallu chwarae fel cefnwr, yn ben profiadol yn y garfan.

“Bydd Hadleigh yn ychwanegu cryfder a dyfnder i’r llinell gefn ar ôl chwarae Super Rugby yn Ne Affrica a Seland Newydd fel canolwr a chefnwr,” meddai Pivac.

“Fe fydd e’n gallu bod yn arweinydd yn y tîm ar ôl bod yn gapten ar dimau yn Seland Newydd. Dw i wedi gweithio gyda Hadleigh am ddwy flynedd, mae’n chwaraewr cyflawn ac fe fydd yn cyfrannu digon ar, ac oddi ar, y cae.”

Yn ogystal â chwarae i Auckland yng Nghwpan ITM mae Parkes wedi chwarae i dimau Super Rugby yr Hurricanes, Southern Kings a’r Blues.