Rhys Webb
Parhaodd dechreuad da’r Gweilch i’r tymor tra bod dechreuad tila’r Gleision dan yr hyfforddwr newydd Mark Hammett yn parhau.

26-15 oedd hi i’r tîm cartref ar faes y Liberty, ar ôl i ddau gais hwyr gan y Gleision barchuso’r sgôr ychydig.

Gwibiodd y Gweilch i’r blaen yn gynnar diolch i droed Dan Biggar, cyn i’r cefnwr Dan Evans sgorio tra bod Sam Warburton yn y cell cosb ar ôl cyfres o droseddau gan y Gleision.

Roedd hi’n 26-3 i’r Gweilch ar ôl deg munud o’r ail hanner ar ôl i’r mewnwr Rhys Webb, sy’n cael dechrau hynod addawol i’w dymor, gyffwrdd â’r gwyngalch o ryc.

Croesodd Lloyd Williams a Kristian Dacey y llinell gais yn hwyr i’r Gleision pan oedd yr ornest wedi hen orffen.

Mae’r Gweilch yn dringo yn ôl i frig y Pro12 ar ôl chwe buddugoliaeth mas o chwech, tra bod y Gleision yn aros yn y degfed safle a’r frwydr bwysig am y chweched safle er mwyn chwarae yn haen uchaf Ewrop y tymor nesaf eisoes yn edrych yn dalcen caled.