Aled Davies fydd yn dechrau fel mewnwr heno i’r Scarlets oddi cartref yn Munster.  Daw Davies i’r tîm yn dilyn anaf i Gareth Davies a bydd yn gyfle da iddo greu argraff ar y tîm hyfforddi.

Mae rheolwr y Scarlets, Wayne Pivac, wedi newid y tri yn y rheng flaen gyda’r ddau brop Phil John a Rhodri Jones ynghyd â’r bachwr Kirby Myhill yn dechrau’r gêm.  Dyna’r unig newidiadau i dîm y Scarlets a gurodd y Dreigiau ddydd Sul diwethaf.

‘‘Mae Munster wedi gwella llawer ers colli i Gaeredin.  Mi wnawn nhw ein profi i’r eithaf ac mae’n sicr o fod yn gêm gorfforol galed,’’ meddai Pivac.

Mi fydd y gêm yn fyw ar BBC 2 Cymru am 7:30 y.h.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Liam Williams, Harry Robinson, Gareth Owen, Scott Williams (Capten), Kristian Phillips, Rhys Priestland ac Aled Davies.

Blaenwyr – Phil John, Kirby Myhill, Rhodri Jones, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, Rory Pitman a John Barclay.

Eilyddion – Emyr Phillips, Rob Evans, Samson Lee, George Earle, James Davies, Rhodri Williams, Steven Shingler a Michael Tagicakibau.