Mi fydd canolwr y Scarlets Steffan Hughes yn arwain tîm Cymru dan 20 oed yn erbyn Samoa yfory ym Mhencampwriaeth y Byd.
Mae Cymru wedi ennill yn erbyn Ffrainc a Fiji cyn belled ond wedi colli i Iwerddon yn y grŵp ac yna yn erbyn Ffrainc yn y rownd gynderfynol am y pumed safle.
Fe fydd Will Boyde o glwb rygbi Cwins Caerfyrddin yn dechrau yn y reng-ôl wedi i brif hyfforddwr Cymru Byron Hayward wneud pump newid i’w dîm. Mi fydd y gêm yn erbyn Samoa am y seithfed safle ym Mhencampwriaeth y Byd.
Tîm Cymru
Olwyr – Dafydd Howells; Tyler Morgan; Steffan Hughes; Jack Dixon; Ashley Evans; Ethan Davies a Tom Williams.
Nicky Smith; Scott Otten; Nicky Thomas; Joe Davies; Rory Thornton; Olly Cracknell; Will Boyde a Ben Roach.