Mae bwrdd Undeb Rygbi Cymru wedi goroesi pleidlais o ddiffyg hyder yn y cyfarfod cyffredinol arbennig.

Ar ôl pedair awr o drafodaethau, dim ond pedwar cynrychiolydd y clybiau a bleidleisiodd o blaid disodli’r drefn bresennol.

Fe wnaeth 18 ymatal, gyda 462 yn gwrthwynebu’r cynnig o ddiffyg hyder.

Yn siarad ar ôl y cyfarfod, fe ddywedodd Cadeirydd URC, David Pickering, “Heddiw, bu pleidlais o hyder yn Undeb Rygbi Cymru.

“Mae clybiau rygbi Cymru wedi ymarfer eu hawl cyfansoddiadol i gwestiynu’r corff llywodraethol ac rydym wedi cymryd rhan yn y trafodaethau lawn ac agored.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr URC, Roger Lewis, “Rydym yn falch iawn fod clybiau rygbi Cymru wedi gallu cymryd rhan yn y trafodaethau.

“Mae’r gefnogaeth anhygoel a ddangosir o blaid Undeb Rygbi Cymru yn rhoi’r hyder i symud ymlaen gydag egni a ffocws i barhau ag esblygu’r gêm yng Nghymru.”

Dysgu gwersi

Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, dywedodd Lewis, “Rydym wedi dysgu gwersi o’r ddadl hon a byddwn yn sicrhau bod y ddeialog yr ydym wedi cymryd rhan ynddi heddiw yn parhau i’n helpu i ddatblygu a gwella.”

Mae canlyniad y cyfarfod yn dod a diwedd i ymgais David Moffett, a oedd yn gyfrifol am gynnal cyfarfod cyffredinol, i ddisodli’r drefn bresennol.

Roedd cyn Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi ail-ymddangos ar gyfer y cyfarfod ar ôl wythnos o ddryswch ynghylch ei leoliad.

Roedd Moffett wedi ennill digon o gefnogaeth i gynnal y cyfarfod ac roedd yn gobeithio cael ei ethol i fwrdd URC.

Yn y gorffennol, mae Moffett wedi herio’r drefn bresennol dros driniaeth gyllidebol yr undeb.

Ar ôl ail-agor ei gyfrif Twitter, a gafodd ei gau i lawr yn gynharach yr wythnos hon, dymunodd y gorau i’r URC.

“Diolch i bawb am y pum mis diwethaf, mae wedi bod yn ddiddorol. Dyna beth yw democratiaeth. Yr wyf yn dymuno’r gorau i Rygbi Cymru.”