Jason Tovey
Bydd y maswr Jason Tovey yn dechrau ei ganfed gêm i’r Dreigiau yn erbyn Benetton Treviso nos yfory.

Fe wnaeth Tovey, sy’n 25 oed, ei ymddangosiad cyntaf i’r rhanbarth yn erbyn y Gweilch yn 2008.  Mae’r chwaraewr ymryddawn wedi cynrychioli tîm dan 20 oed Cymru ac wedi ei alw i garfan y tîm cenedlaethol.  Treuliodd un tymor gyda’r Gleision cyn dychwelyd at y Dreigiau.

‘‘Mae angen i ni fod ar ein gorau yfory gan wneud argraff…bydd yn rhaid i’n blaenwyr ni reoli y gêm os ydym am gael y fuddugoliaeth bwysig yna,’’ meddai Tovey.

Richie Rees fydd yn cadw cwmni i Tovey fel mewnwr.  Jack Dixon a Pat Leach fydd y bartneriaeth yn y canol.  Y chwaraewyr rhyngwladol Will Harries a Tom Prydie fydd yr asgellwyr a Hallam Amos fydd y cefnwr.

Un newid sydd i’r pymtheg a ddechreuodd yn erbyn y Scarlets gyda Duncan Bell yn disodli Bruce Douglas fel prop pen tynn.  Phil Price fydd y prop arall a’r chwaraewr rhyngwladol T. Rhys Thomas fydd y bachwr.

Bydd y capten Andrew Coombs a Matthew Screech yn dechrau yn yr ail reng.  Lewis Evans, Nic Cudd a Taulupe Faletau fydd aelodau’r rheng-ôl.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Hallam Amos, Tom Prydie, Pat Leach, Jack Dixon, Will Harries, Jason Tovey a Richie Rees.

Blaenwyr – Phil Price, T. Rhys Thomas, Duncan Bell, Andrew Coombs (Capten), Matthew Screech, Lewis Evans, Nic Cudd a Taulupe Faletau.