Un gêm yn unig mae’r Dreigiau wedi ennill oddi cartref cyn belled, ac maen nhw’n eistedd yn y nawfed safle yn y Pro12.

‘‘Mae’n rhaid anghofio’r gêm y penwythnos diwethaf a chanolbwyntio ar y gêm sydd o’m blaenau.  Pan fyddwch yn colli yn y modd fel y gwnaethom ni, mae yna nifer o bethau sydd angen eu gwneud,’’ meddai Lyn Jones, hyfforddwr y Dreigiau.

Pat Leach ac Ashley Smith fydd yn rheoli’r canol cae yn lle Ross Wardle a Jack Dixon.  Yn ogystal fydd yna rheng flaen gwbl newydd gyda’r prop Phil Price, y bachwr Elliot Dee a’r prop Duncan Bell.  Un newid sydd i’r rheng-ôl gyda Taulupe Faletau yn dychwelyd i’r Dreigiau am y tro cyntaf ers iddo ddychwelyd o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Dan Evans, Tom Prydie, Pat Leach, Ashley Smith, Will Harries, Jason Tovey a Richie Rees.

Blaenwyr – Phil Price, Elliot Dee, Duncan Bell, Andrew Coombs (Capten), Matthew Screech, Lewis Evans, Nic Cudd a Taulupe Faletau.

Eilyddion – Sam Parry, Bruce Douglas, Nathan Buck, Cory Hill, Jevon Groves, Wayne Evans, Jack Dixon a Hallam Amos.