Colli oedd hanes Tîm yr Wythnos golwg360 brynhawn dydd Gwener, wrth i dîm rygbi GymGym Caerdydd gael eu trechu gan yr ymwelwyr o Aberystwyth.

Y Geltaidd oedd yn fuddugol ar Barc yr Arfau o 17-6, gyda myfyrwyr y Coleg ger y Lli yn gwneud y mwyaf o’u mantais dros stiwdants y brifddinas yn yr hanner cyntaf.

Dewisodd GymGym Caerdydd chwarae yn erbyn y gwynt yn y 40 munud agoriadol, gan olygu’u bod nhw wedi gorfod taclo ac amddiffyn yn galed am y rhan fwyaf o’r hanner cyntaf.

A chyda’r tywydd o’u plaid fe fanteisiodd y Geltaidd, gan sgorio dwy gais yn yr hanner cyntaf diolch i Luke Thomas a Garmon Roberts er mwyn sicrhau mantais o 12-0 ar yr egwyl.

Yn yr ail hanner fe darodd y GymGym yn ôl, gan reoli’r meddiant a thir a llwyddo i drosi dwy gic gosb diolch i droed Gareth Jones.

Ond ofer fu eu hymdrechion i sgorio cais, gydag amddiffyn y Geltaidd yn rhy gadarn, ac fe lwyddodd Ian Ellis i gipio cais arall i’r gwrthwynebwyr cyn y diwedd hefyd i selio’r fuddugoliaeth.

I weld tîm rygbi GymGym Caerdydd yn cyflwyno’u hunain dilynwch y linc yma, ac os hoffech chi i’ch tîm chi gael sylw fel Tîm yr Wythnos cysylltwch â ni!