Enw
: Tîm Rygbi GymGym

Lleoliad: Prifysgol Caerdydd

Llywyddion GymGym: Tegid Richards, Siwan Jones, Llinos Roberts, Melda Griffiths

Capten: Michael Downey

Is-gapten: Dewi Preece

Hyfforddwyr: Dewi Jones, Rhodri Jones

GymGym vs Y Geltaidd – Parc yr Arfau, heddiw, cic gyntaf am 4.30 y p’nawn

Heddiw fe fydd gêm rygbi fawr lawr yn y brifddinas rhwng dau elyn cyfarwydd.

Na nid Cymru yn erbyn yr Alban – mae honno yfory wrth gwrs – ond gornest fawr rhwng cymdeithasau myfyrwyr Cymraeg GymGym Caerdydd a’r Geltaidd o Aberystwyth ar Barc yr Arfau.

Mae’r myfyrwyr yn hen gyfarwydd â wynebu’i gilydd dros y blynyddoedd diwethaf, yn fwyaf diweddar mewn rygbi saith bob ochr yng ngala chwaraeon yr Eisteddfod Ryng-golegol.

Ond brynhawn yma fe fydd y ddau dîm yn wynebu’i gilydd mewn gêm lawn pymtheg bob ochr, gyda disgwyl y bydd torf iach o fyfyrwyr Cymraeg o’r ddwy brifysgol yno i’w gwylio.

GymGym

Mae GymGym yn sefyll am y Gymdeithas Gymraeg, sef criw o fyfyrwyr cyfrwng Gymraeg Prifysgol Caerdydd sydd yn dod at ei gilydd i gymdeithasu, gan gynnwys trwy’u clybiau chwaraeon.

Ac yn ôl capten y tîm rygbi Michael Downey, mae’r tîm a’r cefnogwyr yn edrych ymlaen at eu prynhawn ar Barc yr Arfau.

“Rydan ni’n edrych ymlaen – mi fydd o’n brofiad gwahanol chwarae mewn stadiwm yn lle cae am change, ac mae’n gae 4G [artiffisial] hefyd,” meddai’r capten.

“Mi fydd o’n gyfle i gael crowd hefyd, rydan ni’n disgwyl tua 150 o bobl.

“£200 wnaeth o gostio [i logi Parc yr Arfau], felly reit resymol. Pan oedden ni fyny’n chwarae’r Geltaidd yn Aberystwyth cyn Dolig mi wnaeth un o hogia’ ni jyst holi un o hogia’ nhw am y syniad, ac mi wnaeth hi jyst fyny o fanno.

“Rydan ni’n cael socials unwaith y mis fatha tîm, a social unwaith y mis efo’r GymGym mawr hefyd.”

Fideo o chwaraewyr y GymGym yn cyflwyno’i hunain:

Gallwch hefyd weld rhagflas a chlip fideo o dîm rygbi Y Geltaidd a fu’n Dîm yr Wythnos golwg360 bythefnos yn ôl.

Tîm y GymGym: Daniel Davies, Brenig Gwilym, Dylan ‘Consist’ Williams, Guto Rhys Huws, Nathan Samuel, Ioan Hughes, Michael Downey (capten), Dewi Preece; Trystan Thomas, Gareth Jones, Dewi Jones, Carwyn ‘Fali’ Jones, Alun ‘Bodwrdi’ Evans, Tim Plevey, Daniel ‘Howie’ Howells

Eilyddion: Garmon Williams, Steffan ‘Corcyn’ Evans, Gwion Eryl, Richard ‘Sting’ Foulkes, Owain Gruffudd, Tomos Parry Williams, Rhydian Davies, Rhodri Jones, Owain Thomas, Rhys Jones

Os hoffech chi i’ch tîm lleol gael sylw gan golwg360 yn ein heitem wythnosol, cysylltwch â ni!