Sgoriodd Tom Prydie ei ail gais dros Gymru
Japan 23 – 8 Cymru

Roedd canlyniad rygbi hanesyddol i Japan heddiw wrth iddyn nhw guro Cymru am y tro cyntaf erioed yn Tokyo.

Er i Gymru chwarae’n well nag y gwnaethon nhw’r wythnos diwethaf, roedden nhw’n colli 6-3 ar yr hanner.

Sgoriodd asgellwr y Dreigiau, Tom Prydie, yn fuan wedi’r hanner i roi’r ymwelwyr ar y blaen, ond barodd y flaenoriaeth ddim yn hir.

O fewn dim amser roedd y canolwr Craig Wing wedi croesi i’r tîm cartref, gyda Ayumu Goramaru yn llwyddo gyda’i ymgais at y pyst.

Daeth Cymru’n agos at sgorio cais wedi cic fach alluog gan Dan Biggar, ond methodd Rhys Patchell a thurio’r bêl wrth iddi adlamu dros y llinell.

Seliwyd y fuddugoliaeth hanesyddol gydag ail gais i Japan trwy’r blaenasgellwr Michael Broadhurst.