Mae’r chwaraewr canol cae dawnus Aaron Ramsey, wedi dweud ei fod am wneud ei orau posib i sicrhau y bydd Adar Gleision Caerdydd yn esgyn i’r Uwch-gynghrair ar ddiwedd y tymor yma.

Roedd Aaron Ramsey, sydd ar fenthyg gyda chlwb y brifddinas o Arsenal, wedi gwneud ei sylwadau cyn y gem heno rhwng Caerdydd a Burnley.

“Mis sydd gen i ar ol o’r cyfnod benthyg a phedair gem yn y cyfnod hwnnw.” meddai, ” Y gobaith yw cael y 12 pwynt llawn cyn i fi fynd nol at Arsenal.” Bydd cryn brawf i’w obeithion ddydd Sadwrn, pan fydd Caerdydd yn herio Nottingham Forest, sydd hefyd mewn sefyllfa gref ar frig y Bencampwriaeth.

Eisoes mae Aaron Ramsey wedi profi buddugoliaeth gyda’i glwb dros dro ar gae’r Liberty yn erbyn Elyrch Abertawe. Dywedodd mai profi buddugoliaeth mewn gem ddarbi Gymreig oedd un o uchafbwyntiau ei yrfa.