Dave Jones

Fe fydd Caerdydd yn mynd o fewn tri phwynt i frig y Bencampwriaeth os byddan nhw’n llwyddo i guro Burnley gartre’ heno.

Ond mae’r rheolwr, Dave Jones, wedi rhybuddio y bydd ei dîm yn wynebu her anodd yn erbyn clwb sydd wedi dechrau gwneud yn dda.

Ac mae’n dweud bod y ras ym mhen ucha’r tabl yn rhyfeddol o dynn gyda dim ond dau bwynt rhyngddyn nhw yn yr ail safle a Leeds sy’n chweched.

Mae’r holl brif glybiau – gan gynnwys Caerdydd – wedi cael canlyniadau da yn ystod yr wythnosau nesa’ ond mae Dave Jones yn credu bod ei garfan yn gryfach nag erioed.

Roedd yr eilyddion wedi chwarae rhan bwysig yn y fuddugoliaeth fain yn erbyn Scunthorpe ddydd Sadwrn.

Dave yn dweud

“Mae gynnon ni obaith,” meddai Dave Jones. “Ar hyn o bryd, QPR [yr arweinwyr]  sy’n dal y fantais ac mae’n rhaid i ni geisio’i gipio oddi arnyn nhw.

“Ond mae Norwich a Leicester City ar rediad hefyd, a Burnley. Mae pawb fel petaen nhw’n ennill ar hyn o bryd, mae pawb yn dechrau chwarae ar eu gorau.

“Fe fydd hon yn frwydr arall i ni ac mae’n rhaid i ni ddal ati i anelu at y targed sy’n denu pawb.”