Mae Clwb Pêl-Droed Caerdydd wedi gwrthod cynnig gan Fulham i brynu’r chwaraewr canol-cae Peter Whittingham.

Mae yna adroddiadau bod gan West Bromwich Albion ddiddordeb yn y chwaraewr 27 oed hefyd.


Roedd Whittingham ar y cae bob munud o bob gêm i’r Adar Gleision y tymor diwethaf, ac mae ganddo gytundeb gyda’r clwb hyd at 2014.

Sgoriodd 13 gôl mewn 55 gêm y tymor diwethaf, a chafodd ei enwi yn nhîm y flwyddyn yn y Bencampwriaeth.

Cafodd Whittingham ei brynu gan Gaerdydd am £250,000 oddi wrth Aston Villa yn 2007.

Roedd yn allweddol i lwyddiant yr Adar Gleision y tymor diwethaf, wrth iddyn nhw ddod o fewn trwch blewyn i guro Lerpwl yn rownd derfynol Cwpan Carling.

Bydd gêm gyntaf Caerdydd yn y Bencampwriaeth yn erbyn Huddersfield ar Awst 17.

Mae Whittingham yn cael ei ystyried gan Fulham fel chwaraewr delfrydol i lenwi’r bwlch sydd wedi’i adael gan y capten, Danny Murphy, sydd wedi symud i Blackburn Rovers.