Mae’n ymddangos bod penderfyniad Uwch Gynghrair Cymru i dorri nifer timau’r gynghrair i ddeuddeg yn talu ar ei ganfed o ran y niferoedd sy’n gwylio’r gemau.

Yn ôl yr ystadegau sydd wedi eu rhyddhau hanner ffordd trwy’r tymor, mae cyfartaledd torf gemau’r gynghrair 22% yn uwch nag ydoedd y llynedd – sy’n gyfanswm o 338 cefnogwyr ym mhob gêm.

Sêr Castell Nedd yn helpu

Yr enwau mawr sydd wedi arwyddo i rai o’r timau sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf, yn arbennig Lee Trundle a Kristian O’Leary yng Nghastell Nedd.

Mae cyfartaledd y torfeydd sy’n mynychu’r Gnoll wedi codi i 601, sydd 172% yn fwy na’r cyfartaledd y llynedd, gan gyfiawnhau’r buddsoddiad yng nghyn sêr Abertawe.

Mae dechrau da Dinas Bangor i’r tymor wedi bod yn hwb mawr i dorfeydd Ffordd Ffarrar hefyd, a’u cyfartaledd nhw o 754 o gefnogwyr ym mhob gêm yw’r uchaf yn y gynghrair.

Gêm gartref Bangor yn erbyn Y Seintiau Newydd sydd hefyd wedi gweld torf fwyaf y tymor hyd yn hyn gyda 1030 o gefnogwyr yn talu wrth giât Ffordd Ffarrar.

Rhai yn dioddef

Er y cynnydd, tydi pethau ddim mor gadarnhaol a hynny wrth edrych yn fanylach ar yr ystadegau gyda dros hanner timau’r gynghrair wedi gweld gostyngiad bach yn eu torfeydd.

Y Bala a Llanelli, sydd ill dau wedi cael tymor cymharol siomedig, sydd wedi dioddef fwyaf gyda thorfeydd Maes Tegid 27% yn is na llynedd a Llanelli yn denu 24% yn llai i Barc Stebonheath.