Ni fydd David Beckham yn chwarae dros dim Prydain yn y Gemau Olympaidd ar ôl i’r chwaraewr ddatgelu ei fod heb gael ei ddewis yn y garfan derfynol.

Roedd disgwyl i’r chwaraewr 37 oed gael ei ddewis gan yr hyfforddwr Stuart Pearce yn un o dri chwaraewr dros 23 oed, ond mae’n ymddangos mai’r tri yna fydd Ryan Giggs, Craig Bellamy a Micah Richards.

“Rwy’n siomedig iawn” meddai David Beckham mewn datganiad. “Mae pawb yn gwybod cymaint mae chwarae dros fy ngwlad yn ei olygu i mi felly byddai wedi bod yn anrhydedd cael bod yn rhan o Team GB.”

Roedd David Beckham wedi bod yn llysgennad dros ymgyrch Llundain i gael y Gemau Olympaidd ac aeth Stuart Pearce i’r Unol Daleithiau i’w wylio’n chwarae. Mae’n debyg fod Pearce wedi dewis amddiffynnwr Manchester City, Micah Richards, er mwyn cryfhau ei opsiynau amddiffynnol.

Bale a Ramsey

Mae’n debygol iawn bydd y Cymry Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn cael eu dewis, er bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynegi eu hanfodlonrwydd gyda hynny.

Mae’r Gymdeithas o’r farn y gallai tîm Prydeinig fod yn fygythiad i ddyfodol tîm cenedlaethol Cymru, ond maen nhw wedi cadarnhau na fyddan nhw’n cosbi unrhyw Gymry sy’n penderfynu chwarae yn nhîm Prydain yn y Gemau Olympaidd.