Caerdydd 1 – 0 Scunthorpe

Cadwodd Caerdydd eu lle yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth a rhoi rhagor o bwysau ar Scunthorpe gyda pheniad gan Seyi Olofinjana ar ôl 85 munud.


Dave Jones, rheolwr Caerdydd
Cyrhaeddodd Scunthorpe dde Cymru wedi colli 10 o’u 12 gêm ddiwethaf yn y gynghrair, tra bod Caerdydd yn anelu am ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Roedd yr ymwelwyr i weld wedi sicrhau pwynt o leiaf cyn i Seyi Olofinjana godi fel aderyn a phenio croesiad Jason Koumas i gefn y rhwyd.

Rheolodd Caerdydd ddechrau’r gêm a bu bron i Jay Bothroyd sgorio gyda pheniad ar ôl chwe munud yn dilyn croesiad gan Paul Quinn.

Ar ôl 12 munud cafodd croesiad peryglus gan Craig Bellamy ei daro o’r neilltu gan Michael Nelson wrth i’r tîm cartref wthio’n galed am gôl.

Cafodd cyn-gapten Cymru gyfle da arall ar ôl 59 munud wrth iddo daro’r bêl draw i Michael Chopra, ond fe aeth ei beniad o 12 llath i ddwylo’r gôl-geidwad.

Doedd Scunthorpe ddim yn credu ryw lawer ond yn amddiffyn yn ddigon da i awgrymu eu bod nhw’n mynd i ennill pwynt.

Ond fe ddaeth y gôl o’r diwedd gyda phum munud ar ôl wrth i Koumas daro croesiad da a gafodd ei benio i’r gôl gan Olofinjana o 12 llath.