Mae’n bosib y bydd Craig Bellamy yn dychwelyd i chwarae i dîm pêl-droed Dinas Caerdydd y tymor nesaf gan fod y clwb yn ystyried cynnig cytundeb iddo.

Mae Bellamy yn aelod o dîm Lerpwl ar hyn o bryd. Llofnododd gytundeb dwy flynedd gyda nhw’r llynedd.

Mae perchnogion Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu buddsoddi £100 miliwn yn y clwb.

Pan chwaraeodd Bellamy i Gaerdydd yn ystod tymor 2010-1011, fe sgoriodd 11 gol.

Mae’n adnabod rheolwr Caerdydd, Malky Mackay, yn dda gan fod y ddau wedi chwarae i dîm Norwich ar yr un pryd. Mae Mackay a rheolwr newydd Lerpwl, Brendan Rogers, hefyd yn ffrindiau mawr.

Mae Craig Bellamy yn edmygu’r dull o chwarae  cyffrous sy’n cael ei ffafrio gan Rodgers ond mae hefyd wedi dweud y byddai’n hoffi ysbrydoli Caerdydd i estyn i’r Uwch Gynghrair.