Aberystwyth 0 – 0 Hwlffordd

Roedd diwedd rhwystredig i obeithion Aberystwyth am le yn hanner uchaf Uwch Gynghrair Cymru, wrth iddyn nhw orffen gêm gyfartal 0 – 0 yn erbyn Hwlffordd heddiw.

Fe gafwyd gôl gan dîm Alan Davies ond roedd y chwaraewr yn camsefyll, yn ôl y llumanwr. Roedd sawl cyfle arall i Aberystwyth ond doedden nhw ddim ar eu gorau wrth i bwysau yr achlysur effeithio arnyn nhw.

Dyma oedd gêm olaf Aberystwyth cyn i‘r gynghrair rannu’n ddau, ac roedden nhw’n teithio i stadiwm New Bridge Meadow yn Hwlffordd gan wybod bod angen buddugoliaeth arnyn nhw i ennill eu lle ymysg chwech uchaf Uwch Gynghrair Cymru.

Mae’r canltyniad yn gadael y tîm ar 26 pwynt, dau y tu ôl i Bort Talbot sydd ar 27.

Fe fydd yna ochenaid o ryddhad gan Bort Talbot methodd cyfle  i fwy neu lai sicrhau eu lle yn hanner uchaf yr adran yn erbyn Castell-bedd nos Fawrth.

Collodd y Steelmen y gêm 2 – 1 ac roedd rhaid iddynt ddisgwyl nes heddiw cyn gwybod a fyddai Aberystwyth yn cymryd llam llyffant i’r chweced safle.

“Roedd o’n gêm dynn iawn ac yn ymdrech lew gan Hwlffordd, ac roeddwn i’n meddwl eu bod nhw efallai yn haeddu ennill y gêm,” meddai rheolwr Port Tabot, Mark Davies, wrth Sgorio.

Mae o wedi bod yn dymor tynn iawn ac fe lwyddon ni i sleifio i mewn. Rydw i’n edrych ymlaen at ail hanner y tymor. Mae gyda ni dim ifanc ac fe fydd o’n her i ni.

“Ond yn amlwg fe fyddai’n well gennyn ni fod yn yr hanner uchaf na’r hanner isaf ac r’yn ni wrth ein bodd.

“Dyw’r tymor ddim drosodd i Aberystwyth chwaith a bod yn deg iddyn nhw. Mae angen i’r hyfforddwr godi eu calonnau nhw nawr.”

Aberystwyth v Hwlffordd

Dyma oedd y pedwerydd tro i’r ddau dim chwarae yn erbyn ei gilydd y tymor yma, ar ôl iddynt gyfarfod dwywaith yng Nghwpan Loosemores.

Roedd gêm gyfartal 1-1 yn New Bridge Meadow yn y gêm cyntaf, cyn i Aberystwyth sicrhau buddugoliaeth 3 – 0 adref yn yr ail.

Collodd Aberystwyth 2 – 0 yn yu gynghrair mis diwethaf wrth i Jack Christopher sgorio dau gôl dros Hwlffordd.