Brendan Rodgers
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi dweud fod angen deg buddugoliaeth ar ei dîm er mwyn ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae gan yr Elyrch 16 gêm yn weddill y tymor yma, gan ddechrau yn erbyn Middlesborough yn y Stadiwm Riverside heddiw.

Mae Rodgers yn credu y byddai ennill deg o’r gemau rheini yn sicrhau dyrchafiad awtomatig.

Byddai chwe buddugoliaeth yn ddigon er mwyn sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.

“Roedd angen 70 o bwyntiau ar y timau gyrhaeddodd y gemau ail gyfle’r llynedd, ond rydyn ni’n teimlo allen ni gael mwy na hynny,” meddai.

“Ond y nod yw gorffen ymysg y chwech uchaf ac fe fyddai hynny yn gyflawniad gwych.”

Ond mae Rodgers yn credu y gallai Abertawe ennill dyrchafiad awtomatig i Uwch Gynghrair Lloegr os ydyn nhw’n parhau i chwarae i’r un safon.

“Dw i’n credu y bydd angen deg buddugoliaeth i ennill dyrchafiad awtomatig. Gydag ychydig o gysondeb fe fyddwn ni ymysg y ddau safle uchaf.

“Mae gen i lawer iawn o ffydd yn y chwaraewyr. R’yn ni mewn safle da iawn, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydi pethau’n mynd lawr allt.”

Gôl gyntaf

Mae ymosodwr Abertawe, Luke Moore yn gobeithio y bydd yn sgorio ei gôl gyntaf i’r Elyrch yn erbyn Middlesborough heddiw.

Mae Moore heb sgorio dros Abertawe ers ymuno oddi wrth West Brom fis diwethaf.

Fe sgoriodd Moore dair gôl i Aston Villa yn erbyn Middlesborough yn 2006 ac mae’n gobeithio am berfformiad tebyg dros yr Elyrch.

“Fe fyddai’n braf sgorio fy ngôl gyntaf i Abertawe yn erbyn yr un tîm,” meddai.

“Rydw i wedi setlo i mewn yn dda ac mae pobol Cymru yn wych. Mae pawb mor gyfeillgar. Rydw i’n mwynhau.”