Ffordd Ffarrar
Mae clwb Bangor wedi beirniadu penderfyniad i aildrefnu gêm ar gyfer y teledu gan ddweud y gallai golli’r bencampwriaeth iddyn nhw.

Ond mae llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi amddiffyn y penderfyniad a chanmol S4C am eu sylw i Uwch Gynghrair Cymru.

Oherwydd bod y sianel yn awyddus i’w darlledu, fe fydd y gêm allweddol rhwng Bangor a’r Seintiau Newydd yn cael ei chynnal fwy nag wythnos ynghynt na’r trefniant gwreiddiol.

Mae’r newid yn golygu y bydd Bangor yn gorfod chwarae tair gêm allan o bedair oddi cartre’ ar ddechrau ail hanner tymor yr Uwch Gynghrair.

Ar y llaw arall, fe fydd y Seintiau Newydd, eu cystadleuwyr mawr, yn chwarae tair o’r pedair gartre’.

‘Annheg’

“Mae’r sefyllfa’n hollol annheg ac mae angen gofyn pwy sy’n gyfrifol am hyn. Mae’n rhoi Bangor dan anfantais,” meddai cadeirydd Bangor, Gwynfor Jones wrth Golwg 360. “Mi ddylai’r person sy’n gyfrifol gyfaddef ei fod wedi gwneud camgymeriad.

“Mae’r clybiau’n gorfod symud ymlaen a bod yn fwy proffesiynol ac mi ddylai staff gweinyddol Uwch Gynghrair Cymru hefyd symud ‘mlaen efo’r amser.”

Mae’r cadeirydd hefyd wedi dweud bod y clwb yn siomedig nad oedd neb wedi trafod y sefyllfa gyda nhw cyn penderfynu aildrefnu.

“Rydan ni’n siomedig efo’r diffyg cydweithrediad rhwng y gynghrair a’r clybiau,” meddai Gwynfor Jones.

“Rydan ni’n ddigon bodlon i gemau gael eu haildrefnu ar gyfer y teledu, ond mae angen gwneud hynny mewn ffordd deg.”

Mae Gwynfor Jones hefyd wedi beirniadu cytundeb darlledu’r clybiau gyda S4C gan ddweud nad yw’r arian yn ddigonol.

Yn ôl cadeirydd Bangor, dim ond £600 y tymor y mae clybiau Uwch Gynghrair Cymru yn ei dderbyn gan S4C am ddarlledu gemau byw ac uchafbwyntiau.

“Dydi’r sefyllfa bresennol ddim ei werth o, am  £600 y tymor. Mae angen iddyn nhw  ystyried talu’r clybiau yn ôl eu cyfraniad gan fod rhai clybiau’n ymddangos yn amlach nag eraill.”

‘Boddi dan sylw’

Mae Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Ian Gwyn Hughes wedi amddiffyn y penderfyniad i newid dyddiad y gêm.

“Mae’n anodd iawn i unrhyw un fod yn feirniadol o S4C wrth ystyried y sylw maen nhw’n rhoi i Uwch Gynghrair Cymru,” meddai Ian Gwyn Hughes wrth Golwg 360.

Amseriad y gêm wreiddiol oedd un broblem, meddai – ar 27 Mawrth, y diwrnod ar ôl gêm ragbrofol Ewro 2012 rhwng Cymru a Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm.

Ond roedd S4C yn awyddus i ddarlledu’r gêm glwb yn fyw hefyd, oherwydd ei phwysigrwydd.

“Rwy’n gallu deall pam fod S4C wedi penderfynu symud y gêm oherwydd maen nhw am sicrhau gymaint o sylw ag sy’n bosib i gêm Uwch Gynghrair Cymru,” meddai Ian Gwyn Hughes.

“Mae  gêm Cymru a Lloegr yn mynd i fod yn anferth – ryden ni eisoes wedi gwerthu 50,000 o docynnau ac ryden ni’n disgwyl i’r stadiwm fod yn orlawn. Fe fydd sylw sylweddol gan y wasg hefyd yn canolbwyntio ar y gêm ryngwladol.

“Y gêm rhwng y Seintiau Newydd a Bangor yw un fwyaf y tymor yn Uwch Gynghrair Cymru. Ond pe bai’n cael ei chwarae ar yr un penwythnos â gêm Cymru a Lloegr, fe fyddai’n cael ei boddi dan y sylw.”